Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Ebrill 2016

Angharad Tomos ar daith awdur cyn y Fedwen Lyfrau yng Nghaernarfon

Cyfnod chwyldroadol y 1960au yn y Gymru Gymraeg fydd thema nesaf Taith Awdur @LlyfrDaFabBooks, pan fydd Angharad Tomos yn cynnal sesiynau yn ysgolion dalgylch Caernarfon i drafod dwy o’i nofelau diweddar, sef Paent! a Darn Bach o Bapur.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd, wedi trefnu bod y Daith Awdur yn ymweld â chwech o ysgolion rhwng 19 a 22 Ebrill, i gyd-fynd â digwyddiadau’r Fedwen Lyfrau a gynhelir yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, 23 Ebrill. Bydd y sesiynau’n atgyfnerthu’r gwaith a wneir i hyrwyddo llyfrau Cymraeg yn ystod yr ŵyl flynyddol hon.

Bydd Angharad Tomos yn cyflwyno’r ddwy nofel, yn eu gosod yn eu cyd-destun hanesyddol ac yn cyfeirio at ei gwaith fel awdures.

“Bydd hwn yn gyfle gwych i ysgogi’r disgyblion i fwynhau darllen, ac i annog pob un ohonynt i roi cynnig ar ysgrifennu creadigol,” meddai Sharon Owen, cydlynydd Taith Awdur @LlyfrDaFabBooks. Bydd y daith eleni’n ymweld ag ysgolion Bro Llifon, Dolbadarn, Bethel, y Felinheli, Llanrug a’r Bontnewydd yng Ngwynedd.

Yn ôl Elwyn Williams, Swyddog Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, “Mae’n wych bod y Cyngor Llyfrau yn cynnal y gweithgarwch arbennig hwn yn ardal Caernarfon i gyd-fynd â’r Fedwen Lyfrau yn Galeri eleni. Bydd pawb yn mwynhau sesiynau Angharad a byddant yn sicr o godi awydd ar y plant, eu rhieni a’u hathrawon i ddod i’r Fedwen ar 23 Ebrill a mwynhau diwrnod llawn gweithgareddau.”

Bydd gan siop Palas Print stondin ym mhob un o’r digwyddiadau er mwyn cynnig cyfle i’r disgyblion brynu llyfrau Cymraeg.

Rhannu |