Mwy o Newyddion
Cynlluniau i wella ansawdd gofal a mynediad i wasanaethau
Mae Elin Jones Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru wedi addo y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn ymestyn rhaglenni sgrinio canser fel rhan o gynlluniau ehangach i wella diagnosis canser.
Dywedodd Elin Jones y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn ehangu amrediad oedran rhaglenni sgrinio cyfredol, gan ymestyn y Rhaglen Sgrinio Bronnau i fenywod hyd at 75 oed, a chyflwyno’r Rhaglen Sgrinio Coluddion ar oed cynharach.
Ychwanegodd hi y byddai’r mesurau hyn yn ffurfio rhan o Gytundeb Canser ehangach Plaid Cymru i gwtogi amseroedd aros diagnosis, gwella gofal i gleifion a chynyddu eu siawns o oroesi.
Meddai: “Mae Plaid Cymru’n cydnabod fod sgrinio’n hanfodol i ddiagnosis cynnar. Dyna pam ein bod yn ymrwymo i ehangu amrediad oed rhaglenni sgrinio cyfredol.
“Mae ein cynlluniau yn cynnwys ymestyn y Rhaglen Sgrinio Bronnau i fenywod hyd at 75 oed, yn ogystal chyflwyno’r Rhaglen Sgrinio Coluddion ar oed cynharach gan ddefnyddio ystod o brofion mwy effeithiol sydd wedi dangos eu gallu i rwystro un rhan o dair o ganser ar y coluddyn ac i gynyddu defnydd o’r profion.
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn adolygu rhaglenni sgrinio i ganserau eraill, a dwyn i weithrediad llawn brofion sgrinio yn union a’r dystiolaeth glinigol.
“Mae’r mesurau hyn yn ffurfio rhan o’n Cytundeb Canser ehangach sydd wedi ei ddylunio i gwtogi amseroedd aros diagnosis, gwella gofal i gleifion a chynyddu eu siawns o oroesi.
“Mae tua 16,000 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn ond yn anffodus dan lywodraeth Llafur mae cyfraddau goroesi ymysg yr isaf yn Ewrop.
“Byddai cynlluniau Plaid Cymru ar gyfer sgrinio a diagnosis yn anelu i symud Cymru tuag at y cyfraddau goroesi gorau, gan wella ansawdd gofal a mynediad i wasanaethau i gleifion yn y broses.”