Mwy o Newyddion
AS Plaid yn beirniadu Llafur am faniffesto funud olaf
Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru heddiw wedi datgan beirniadaeth chwyrn o’r Blaid Lafur yng Nghymru yn parhau i fod heb gyhoeddi eu maniffesto, er gwaetha’r ffaith mai dim ond 20 diwrnod sydd i fynd nes etholiad hollbwysig y Cynulliad.
Cyhuddodd Mr Edwards y blaid Lafur o “hunanfoddhad syfrdanol” gan honni eu bod yn cymryd pobl Cymru a’u pleidleisiau yn ganiataol.
Ychwanegodd, gyda llai na thair wythnos i fynd nes y bydd y genedl yn ethol llywodraeth nesaf Cymru, fod gan bobl hawl ddemocrataidd i gael digon o amser i graffu ar bolisiau’r pleidiau yn ofalus cyn gwneud penderfyniad.
Dywedodd Jonathan Edwards AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: “Gyda dim ond 20 diwrnod i fynd nes y bydd pobl yn ethol llywodraeth nesaf Cymru, does dim golwg o faniffesto Llafur o hyd.
“Mae hyn yn dangos hunanfoddhad syfrdanol ar ran y weinyddiaeth Lafur flinedig hon sy’n amlwg yn brin o syniadau ac yn mynd yn brin o amser.
“Nid erioed o'r blaen yn hanes gwleidyddol Cymru y gwelwyd plaid lywodraeth yn trin dinasyddion yn y fath fodd sarhaus. Mae gan bobl hawl ddemocrataidd i gael digon o amser i archwilio polisiau’r pleidiau yn ofalus cyn gwneud penderfyniad ar ddiwrnod yr etholiad.
“Yn hytrach, mae gennym blaid Lafur sy’n osgoi craffu ac yn dangos mwy o ddiddordeb mewn gwarchod ei hun na chyflwyno rhaglen gynhwysfawr i wella bywydau pobl Cymru.
“Mae Plaid Cymru eisoes wedi amlinellu ei hymrwymiad i fod y llywodraeth fwyaf hygyrch a thryloyw a welodd Cymru erioed.
“Mae ein rhaglen uchelgeisiol wedi ei chostio’n llaw a’i gwirio’n annibynnol gyda’r manylion ar gael i bawb. Mewn cyferbyniad clir, mae maniffesto munud-olaf Llafur yn dangos ymgais daer i guddio rhag eu record warthus mewn llywodraeth.
“Yn yr etholiad hwn mae gan bobl Cymru gyfle i ddewis llywodraeth na fydd yn eu trin fel ffyliaid. Rwy’n annog pawb i fachu ar y cyfle hwn drwy gefnogi Plaid Cymru ar Fai 5ed.”