Mwy o Newyddion
Leanne Wood: pecyn twristiaeth uchelgeisiol i adeiladu enw rhyngwladol Cymru
Mae Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru heddiw wedi amlinellu sut y byddai llywodraeth Gymreig dan ei harweinyddiaeth yn gweithredu i roi hwb i’r sector twristiaeth drwy ddyblu cyllideb Croeso Cymru ymysg mesurau eraill.
Dywedodd Leanne Wood y byddai llywodraeth Plaid Cymru, yn ogystal a dyblu cyllideb Croeso Cymru o £7m i £14m, yn dynodi 2018 yn Flwyddyn Bwyd a Diod Cymreig, dynodi 2019 yn flwyddyn Dathlu Cymru, a chreu Academi Genedlaethol ar gyfer y sector Twristiaeth Gymreig i ddarparu profiad ymarferol i fyfyrwyr.
Meddai: “Mae Plaid Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth ledled Cymru fel cyflogwr ac wrth ddenu buddsoddiad i’n gwlad.
“Byddwn yn dyblu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Croeso Cymru – o £7m i £14m – i roi hwb iddynt wrth ddenu twristiaid i Gymru.
“Byddwn yn parhau i ddod a mwy o bobl i Gymru a gwella profiadau twristiaid drwy sicrhau gwell cysylltiadau o ran gwasanaethau a gwybodaeth fel y gall twristiaid aros yn agosach at ddigwyddiadau, i sicrhau mynediad i’r wybodaeth dwristiaeth ddiweddaraf i westai, i sicrhau fod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael pan fo’i angen a bod gwestai yn gallu darparu’r ansawdd gwasanaeth gorau posib, gan gynnwys y defnydd o ieithoedd tramor.
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn dynodi 2018 yn Flwyddyn Bwyd a Diod Cymreig, er mwyn rhoi hwb i gynhyrchwyr lleol a’n diwydiant amaeth hollbwysig, yn ogystal a chefnogi busnesau bach a gwerthwyr sy’n cynrychioli’r cam rhwng y fferm a’r fforc.
“Yn 2019, i ddathlu 200fed penblwydd yr Eisteddfod gyfoes cyntaf yng Nghaerfyrddin, byddwn yn sefydlu blwyddyn Dathlu Cymru i hyrwyddo’r gorau o Gymru yn rhyngwladol, gan arddangos y cyfleoedd twristiaeth amrywiol sydd ar gael yn ein gwlad hardd i’r byd.
“Yn olaf, er mwyn annog mwy o bobl ifanc i ddatblygu gyrfaoedd yn y diwydiant lletygarwch byddwn yn creu Academi Genedlaethol ar gyfer y sector Twristiaeth Gymreig, gyda gwesty a chanolfan gynhadledd ar-y-safle, i ddarparu profiad dysgu ymarferol i fyfyrwyr mewn arlwyo a lletygarwch o brentisiaethau i lefel gradd.
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan dwristiaeth gynaliadwy o safon ryngwladol gyda gweithgareddau a phrofiadau’n seiliedig ar ein hadnoddau naturiol, ein cynnyrch, ein tirwedd ac arfordir unigryw, a’n hiaith, diwylliant a threftadaeth.”