Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Ebrill 2016

‘Dim golygiadau, dim mwy o oedi’ – AS Plaid yn galw am gyhoeddi adroddiad Chilcot ar frys

Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi dweud  y dylai canfyddiadau Ymchwiliad Chilcot i Ryfel Irac gael eu cyhoeddi “o fewn wythnosau, nid misoedd” nawr fod cadarnhad y bydd Llywodraeth y DU yn derbyn yr adroddiad ddydd Llun.

Plaid Cymru oedd un o’r gwrthwynebwyr mwyaf chwyrn i’r rhyfel, gyda’r ymgeisydd Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a’r cyn-Aelod Seneddol Adam Price yn arwain yr ymgyrch i uchelgyhuddo Tony Blair am yr ymyrraeth anghyfreithlon.

Wrth siarad ar ol cyfrannu i ddadl yn y Tŷ Cyffredin ar Adroddiad Ymchwiliad Irac dan arweiniad yr AS Ceidwadol, David Davis, dywedodd Liz Saville Roberts AS y dylai’r Prif Weinidog gadw at ei air yn dilyn dweud wrth Syr John Chilcot fis Hydref llynedd y byddai Llywodraeth y DU yn ceisio cwblhau gwiriadau diogelwch o fewn pythefnos i dderbyn yr adroddiad.

Dywedodd yr AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd: “Mae’r oedi cyn cyhoeddi canfyddiadau Ymchwiliad Chilcot yn difrio enw democratiaeth y DU.

“Mae’r ymchwiliad nawr yn ei seithfed flwyddyn yn dilyn cael ei gomisiynu yn 2009, ac wedi gadael teuluoedd a ffrindiau’r rhai a gollodd eu bywydau yn y brwydro yn wynebu gofid ac ansicrwydd aruthrol.

“Mewn llythyr i Syr John Chilcot fis Hydref diwethaf, nododd y Prif Weinidog David Cameron mai 'cynllun a disgwyliad' Llywodraeth y DU oedd i gymryd dim hirach na phythefnos i gwblhau gwiriadau Diogelwch Cenedlaethol.

“Nawr ein bod wedi cael cadarnhad y bydd swyddogion y llywodraeth yn derbyn yr adroddiad ddydd Llun, rhaid i’r Prif Weinidog gadw at ei air a gwneud popeth o fewn ei rym i sicrhau fod y canfyddiadau’n cael eu cyhoeddi o fewn yr wythnosau nesaf.

"Bydd methiant i wneud hyn yn ychwanegu at y cyhuddiadau fod gan y sefydliad rywbeth i’w guddio.

“Mae hi hefyd yn hollbwysig fod cyn lleied a phosib o olygiadau yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

"Rhaid sicrhau nad yw’r cyhoedd a’r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio yn dioddef unrhyw awgrymiadau pellach fod llywodraeth San Steffan yn celu’r gwir.

“Arweiniodd Rhyfel Irac at ddinistr a thywallt gwaed ar raddfa anferth, gan ansefydlogi’r rhanbarth ymhellach a chwythu ar dân eithafiaeth.

“Dyled y wladwriaeth Brydeinig i’r miloedd sydd wedi colli eu bywydau neu ddioddef yn sgil ei thwyll andwyol yw sicrhau dim llai na gwirionedd a thryloywder llawn o hyn allan.”

Rhannu |