Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Ebrill 2016

Teyrnged i Gwyn Thomas; gŵr geiriau

Mae’r bardd Gwyn Thomas, a fu’n athro a pennaeth yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor am lawer o flynyddoedd, wedi marw yn 79 oed.

Yn frodor o Flaenau Ffestinog, cafodd ei benodi'n Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2006, ac roedd yn awdur amryddawn.

Roedd yn gyfrifol am gyfieithu’r Mabinogion i’r Saesneg, casgliad o ddramâu a llyfrau ysgolheictod, cyfrolau barddoniaeth a llyfrau i blant.

Cyfraniad enfawr

Meddai’r Athro Gwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor: “Mae Cymru wedi colli un o’i phrif feirdd ac un o’i hysgolheligion uchaf ei barch.

“Gwnaeth yr Athro Gwyn Thomas gyfraniad enfawr i Brifysgol Bangor, a bydd colled ar ei ôl gan bawb a oedd yn ei adnabod yn y Brifysgol a chan ei gydweithwyr yn Ysgol y Gymraeg yn arbennig.

“Fe wnaeth gyfraniad enfawr i lenyddiaeth Gymraeg ac i’r  maes academaidd.

Yn ddiamau Gwyn Thomas oedd un o feirdd pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, gan ei fod yn fardd mor arloesol.

"Bu’n darlithio yn Ysgol y Gymraeg ers ei benodiad ym 1963 hyd ei ymddeoliad fel Athro’r Gymraeg yn 2000.

"Roedd ei gyfraniad yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau academaidd i gynulleidfa eang, ac yn aml gan ddefnyddio cyfryngau eraill fel ffilm a theledu.

“Fe gyhoeddodd Gwyn Thomas ei gyfrol olaf tra oedd ar dir y byw, Llyfr Gwyn, y llynedd, ac mae’n sôn ynddo am yr holl ddylanwadau a fu arno. Roedd felly’n gynhyrchiol ac yn greadigol hyd y diwedd un.

“Mae’r Ysgol a’r Brifysgol yn estyn ei chydymdeimlad i’w weddw, ei blant, ei deulu a’i holl gyfeillion yn eu colled.”

Poblogeiddio'r Gymraeg

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Tra roedd Gwyn Thomas, fel mae eraill wedi sôn, yn ysgolhaig mawr; roedd ganddo hefyd y gallu i gyfleu gwybodaeth – am yr iaith, ei llên, ei gramadeg a’i hanes – mewn ffordd oedd yn ddealladwy ac yn ddifyr i drwch y boblogaeth.

“Fe wnaeth lawer i boblogeiddio’r Gymraeg ac fe ysgogodd genedlaethau o bobl ifanc i ymddiddori yn yr iaith a’i mwynhau.

“Wrth gydymdeimlo â’r teulu yn eu colled, hoffwn ddiolch am gymwynaswr mor hoffus i’r iaith Gymraeg.”

Dylanwad yn parhau

Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: "Trist iawn yw clywed am farwolaeth y llenor Gwyn Thomas.

"Yn ogystal â bod yn llenor ac ysgolhaig o fri, roedd Gwyn Thomas yn ymddiddori’n ddwfn ym mhob agwedd ar ddiwylliant a chelf gyfoes, gan ddadlau'n gyson dros ddehongliad eang a chynhwysol o'r termau hyn. Bydd cofio mawr am ei waith a hiraeth am ei gwmni.

"Mae ei gyfraniad i'r celfyddydau yng Nghymru yn amhrisiadwy, a bydd ei ddylanwad yn parhau  thrwy ei gyfrolau niferus o farddoniaeth, dramâu a'i astudiaethau - a hefyd drwy'r llu o fyfyrwyr a gafodd ei hysbrydoli ganddo yn ystod ei ddegawdau fel Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor."

Roedd Gwyn Thomas yn arbenigwr ar chwedlau'r Mabinogi, ac ef oedd yn gyfrifol am gyfieithu'r chwedlau i'r Saesneg. Roedd yn sgriptiwr toreithiog hefyd ac fe addasodd rhai o chwedlau'r Mabinogi ar gyfer ffilm animeiddiedig i S4C yn 2002, gyda Matthew Rhys ac Ioan Gruffudd yn lleisio.

Yn 2006 fe enillodd wobr am ei gyfraniad allweddol i fyd y ffilm a'r celfyddydau gweledol yng Nghymru, ac fe chwaraeodd ran flaenllaw yn nyddiau cynnar ffilmiau Cymraeg fel aelod o Ffwrdd Ffilmiau Cymru. Ef, ynghyd â'r cyfarwyddwr William Aaron, a gynhyrchodd y ffilm arswyd Gymraeg gyntaf yn 1981, O'r Ddaear Hen.

Roedd yn fardd poblogaidd o gryn bwysigrwydd hefyd, a’i gerddi niferus yn bwrw golwg dreiddgar ar bobl a’r byd o’i gwmpas mewn ffordd boblogaidd, hawdd ei deall.

Ar ddydd Gŵyl Dewi eleni, fe ddarlledodd S4C raglen oedd yn ddathliad o'i gyfraniad i lên Cymru. Yn y rhaglen Gwyn Thomas: Gŵr Geiriau, roedd Gwyn Thomas yn ein tywys yn ôl i fro ei febyd ym Mlaenau Ffestiniog, ac i gwrdd â llenorion ac artistiaid eraill i drafod y broses o greu; gan holi o le mae'r awen a'r ysbrydoliaeth yn dod.

Bu'n sgwrsio â'r cerflunydd John Meirion Morris a'r canwr Gai Toms, yr artist Gareth Parry a'r cyfansoddwr Owain Llwyd. A thrwy gyfrwng y sgyrsiau yma cafwyd golwg o'r newydd ar waith ei gwaith nhw, ac ar yrfa Gwyn ei hun. 

Yn deyrnged i'r Dr Gwyn Thomas, bydd y rhaglen Gwyn Thomas: Gŵr Geiriau yn cael ei dangos eto ar S4C nos Sul yma, 17 Ebrill am 10.00. 

 

 

 

 

 

Rhannu |