Mwy o Newyddion
Dau o frodyr Cowbois Rhos Botwnnog i arwain prosiect Hedd Wyn
Aled a Dafydd Hughes, dau frawd o ardal Pen Llŷn, sy’n fwyaf adnabyddus fel aelodau o’r band Cowbois Rhos Botwnnog, sydd wedi’u penodi i arwain y tîm creadigol a fydd yn gyfrifol am gyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn y flwyddyn nesaf.
Bydd y ddau frawd yn cydweithio gydag amryw o artistiaid a pherfformwyr er mwyn creucyfanwaith newydd ac unigryw ym mhafiliwn yr Eisteddfod. Dyma hefyd fydd cyngerdd Côr yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.
Bydd hi’n ganrif ers Eisteddfod y Gadair Ddu a marwolaeth y bardd ifanc, Hedd Wyn o Yr Ysgwrn,Trawsfynydd yn 2017, ac mae’r Gadair a’r bardd yn rhan eiconig o hanes yr Eisteddfod a Chymru.
Bwriad y cyngerdd yw coffau’r genhedlaeth o fechgyn ifanc na ddaeth adref i Gymru o’r Rhyfel Mawr, a bydd hefyd yn gyfle i adlewyrchu ac ystyried effaith hyn ar y cartref, y teulu a’r gymuned ehangach.
Meddai Aled a Dafydd: “Bydd hwn yn brofiad eithriadol o gyffrous i ni, nid yn unig fel cerddorion ond hefyd fel Cymry sydd wedi gwybod am hanes Hedd Wyn a’r Gadair Ddu ers pan oeddem yn blant.
"Mae cael y cyfle i greu cyfanwaith yn seiliedig ar y Rhyfel Byd Cyntaf a chyda Hedd Wyn fel ysbrydoliaeth yn anrhydedd ac yn her, ond mae’n brofiad rydym am ei fwynhau.
“Bydd y prosiect yn gyfle i ni arbrofi gyda chymaint o arddulliau cerddorol gwahanol, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n apelio atom yn fawr.
"Bydd yn brofiad newydd a chyffrous i gydweithio gyda’r tîm i dynnu popeth ynghyd, gweithio gyda cherddorfa broffesiynol, a chreu cyfanwaith a fydd, gobeithio, yn goffhad teilwng ar lwyfan yr Eisteddfod.
“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gydweithio gyda chymunedau ar hyd a lled y dalgylch er mwyn casglu atgofion, straeon a phob math o wybodaeth.
"Bydd y rhain i gyd yn ein helpu ac yn ein hysbrydoli dros y misoedd nesaf wrth i ni weithio ar y gerddoriaeth a’r geiriau.”
Bydd y bardd Guto Dafydd yn cydweithio gydag Aled a Dafydd ar greu’r geiriau ar gyfer y gwaith, a bydd Guto hefyd yn mynychu gweithdai cymunedol dros yr wythnosau nesaf cyn cychwyn ar y gwaith cyfansoddi geiriau.
Bydd y gweithdai hyn yn cael eu cynnal ar draws Gwynedd ac Ynys Môn ac yn cynnwys trawsdoriad eang o oedrannau, o blant cynradd i drigolion cartrefi gofal.
Bydd rhan o’r cyfanwaith yng ngofal Paul Mealor, cyfansoddwr sy’n adnabyddus iawn am ei weithiau corawl arobryn, ac un a ddaw’n wreiddiol o Lanelwy, Sir Ddinbych ond sydd bellach yn byw ym Môn. Bydd Paul yn cydweithio gyda’r bardd, Grahame Davies.
Yn ogystal, bydd y cerddor John Quirk yn rhan o’r tîm creadigol, ac yn cydweithio’n agos gyda phawb er mwyn tynnu popeth ynghyd i greu perfformiad cofiadwy yn yr Eisteddfod.
Yn ogystal â’r cyngerdd a’r gweithdai cymunedol, dyma fydd prosiect côr yr Eisteddfod ar gyfer 2016-17. Bydd yr ymarferion yn cychwyn yn yr hydref a chyhoeddir rhagor o wybodaeth bryd hynny.
Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, Cyngor Ynys Môn, Cyngor Celfyddydau Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.