Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Ebrill 2016

Cynhadledd Flynyddol Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched yn trafod 'Ein Gwlad Hudol'

Bydd aelodau Sefydliad y Merched (SyM) o bob cwr o Gymru yn ymgynnull yn Llanelwedd ar 21 Ebrill 2016 ar gyfer 92fed Cynhadledd Flynyddol Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched (FfCSyM)-Cymru ar Faes y Sioe Frenhinol o 10.45yb tan 4.00yp.

Yn seiliedig ar y thema ‘Ein Gwlad Hudol’, bydd aelodau yn cael eu hannerch gan siaradwyr ysbrydoledig fel a ganlyn:-

  •  Bydd y newyddiadurwraig a ddarlledwraig arobryn Carolyn Hitt yn trafod “Ein Gwlad Hudol … o’n Mamau” ac yn ystyried rhai o’r menywod ysbrydoledig o’n gorffennol a oedd wedi brwydro’n gryf i wella cymdeithas ac wedi helpu i greu'r Gymru sydd gennym ni heddiw; 
  • Wrth ganolbwyntio ar “Gweithio gyda’n Gilydd i Warchod ein Gwladol Hudol”, bydd Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Diane McCrea, yn cyflwyno golwg cyffredinol o rolau a chyfrifoldebau’r Corff, o warchod a monitro’n hamgylchedd i reoli coetiroedd, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, ac amddiffynfeydd dŵr a llifogydd;
  • Bydd Dr Anwen Mair Jones, Darlithydd mewn Ffisioleg ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn siarad am y gwaith mae hi wedi cyflawni ar ordewdra ac iechyd plant. Bydd hi hefyd yn siarad am ei rôl fel cyflwynydd ar y gyfres DNA Cymru ar S4C. 

Bydd y gynhadledd hefyd yn cael ei hannerch gan Gadeirydd FfCSyM-Cymru Ann Jones, Trysorydd Mygedol FfCSyM Julia Roberts a phennaeth FfCSyM-Cymru Rhian Connick.

Ers ffurfiad y SyM cyntaf yn Llanfairpwll yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae FfCSyM wedi bod yn rym pwerus dros newid ar faterion fel sgrinio'r fron, peryglon ysmygu, ymwybyddiaeth o HIV ac AIDS, tal cyfartal ar gyfer merched a chynyddu’r nifer o fydwragedd.

Heddiw, mae dros 6,300 o Sefydliadau gyda mwy na 215,000 o aelodau dros y DU,  gan gynnwys 16,000 o aelodau yng Nghymru, yn cwrdd pob mis, nid yn unig i drafod mandadau ac ymgyrchoedd -  gan gynnwys yr ymgyrch diweddaraf ar roi organau - ond hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac i ddysgu sgiliau sydd o fudd i aelodau a’u cymunedau gan gynnwys atgyweiriadau dodrefn, hunanamddiffyniad a hyd yn oed gwneud coctels.  

Dywed Ann Jones, Cadeirydd FfCSyM-Cymru: “Yn ystod y tair blynedd diwethaf, rwyf wedi cael y fraint o deithio cyfanrwydd Cymru lle dw’i wedi cwrdd ag aelodau hudol SyM o ystod eang o gefndiroedd a diddordebau.  I greu'r cwilt clytwaith sydd yn SyM, mae ein haelodau yn tynnu ar brofiadau byw ac yn eu rhannu a’i gilydd. Beth sydd yn hudol i mi yw’r ffordd y mai aelodau yn cymysgu gyda’i gilydd o fewn SyM.  

”Yn dilyn dathliad ein canmlwyddiant ym mis Medi blwyddyn ddiwethaf, mae SyM yn parhau i fynd o nerth i nerth.  Eleni yn barod, mae 18,863 o aelodau newydd wedi eu recriwtio a 92 o ganghennau newydd SyM wedi agor ar draws Gymru, Lloegr a’r Ynysoedd. Anogaf aelodau i ddal yr hud o fewn SyM - i fod yn anturus, trio rhywbeth newydd ac i ddweud wrth y byd bod SyM yn mynd o nerth i nerth.”

Llun: Carolyn Hitt

Rhannu |