Mwy o Newyddion
Cyfle unigryw i micro-wirfoddoli ar-lein gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Hoffech chi wirfoddoli a chyfrannu at achos da, ond yn brin o amser i gyflawni rôl gwirfoddoli reolaidd?
Os felly, a ydych wedi ystyried micro-wirfoddoli ar-lein?
Mae dydd Gwener 15fed o Ebrill yn ddiwrnod micro-wirfoddoli ac mae prosiect Cynefin, a leolir yn y Llyfrgell Genedlaethol yn chwilio am bobl i gymryd ychydig o funudau yn ystod eu diwrnod i gyfrannu tuag at brosiect cenedlaethol.
Mae prosiect Cynefin yn digido mapiau degwm Cymru ac yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i drawsgrifio a geogyfeirio’r mapiau hanesyddol yma o'r 1840au.
Mae eisoes gan y prosiect dros 700 o wirfoddolwyr ledled y byd sy’n cwblhau tasgau micro-wirfoddoli ar ei gwefan cyfrannu torfol.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Cynefin, Einion Gruffudd: "Y peth gwych am y rôl wirfoddol hon yw nad oes unrhyw ymrwymiad; gallwch wneud cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch, fel a phan y gallwch, o gysur eich cartref."
Gall y tasgau micro-wirfoddoli ar wefan cynefin.cymru cael eu gwneud ar adeg ac ar gyflymder sy'n addas i bob unigolyn.
Trwy roi dim ond 10 munud o'ch amser gallwch helpu i wella mynediad tuag at dreftadaeth Cymru a chryfhau cof cyfunol y genedl.
Yn dilyn y prosiect, bydd y mynediad at mapiau degwm Cymru yn rhad ac am ddim ar-lein.
Bydd y gwaith a wneir gan wirfoddolwyr yn golygu bydd y wybodaeth ar y 1,200 map degwm a’r 30,000 tudalen o ddogfennau cysylltiedig yn chwiliadwy mewn ffyrdd arloesol.
Mae'r dogfennau hanesyddol yma yn cynnwys gwybodaeth fel enwau tirfeddianwyr, enwau deiliaid tir ac enwau caeau, ac mi fydd yn adnodd gwerthfawr ar gyfer unrhyw un sy'n ymchwilio i'w hanes teuluol neu hanes lleol.
Felly cofiwch, os oes gennych chi 10 munud i sbario dydd Gwener yma, gall eich cyfraniad chi fynd yn bell!