Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Ebrill 2016

Leanne Wood - Rhaid sicrhau fod ein rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus wedi eu hintegreiddio’n llawn

Bydd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood a’r ymgeisydd Cynulliad dros Geredigion Elin Jones yn cwrdd a grwp ymgyrchu Traws Link Cymru heddiw i drafod cynlluniau i gyflwyno system drafnidiaeth wedi ei integreiddio’n llawn i Gymru.

Mae Plaid Cymru wedi addo gwella gwasanaethau rheilffordd ledled Cymru, gan gynllunio i integreiddio amserlenni bws a thren a chyflwyno rhwydweithiau rheilffordd ysgafn, gan gyfuno hyn gyda chynlluniau teithio actif, i gadw Cymru ar grwydr.

Mae Elin Jones wedi cefnogi’r ymgyrch Traws Link i ail-agor rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin, rhywbeth y byddai llywodraeth Plaid Cymru’n parhau i weithio tuag ato.

Dywedodd Leanne Wood: “Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gweledigaeth gyffrous i ddyfodol isadeiledd trafnidiaeth Cymru, sy’n cynnwys buddsoddi mewn rhwydweithiau rheilffordd ysgafn, rheilffordd cymuned a llwybrau seiclo a cherdded diogel.

“Rhaid i ni hefyd sicrhau fod ein rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus wedi eu hintegreiddio’n llawn, fel ei bod hi mor hawdd a phosib i bobl eu defnyddio yn eu bywyd bob dydd.

“Mae’r prosiect i ail-agor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin wedi ei gefnogi gan Elin Jones a bydd Plaid Cymru’n parhau gyda’r prosiect hwn.

“Mae Plaid Cymru’n cefnogi perchnogaeth gyhoeddus o’r rheilffyrdd a byddwn yn parhau i geisio rheolaeth anghyfyngedig dros ddyfarnu masnachfreintiau rheilffordd yn y dyfodol.

“Pan oedd Plaid Cymru mewn llywodraeth fe wnaethom isadeiledd yn flaenoriaeth, ac mae Cymru’n parhau i elwa o’r buddsoddiad hwn. Rydym yn barod i barhau gyda’r prosiect hwn, a buddsoddi mewn rheilffyrdd, ffyrdd ac isadeiledd digidol ledled Cymru.”

Dywedodd Elin Jones ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Geredigion: “Mae rhwydwaith drafnidiaeth gref yn bwysig iawn i gymunedau gwledig, a dyna pam fod Plaid Cymru am greu system drafnidiaeth gyhoeddus wedi ei hintegreiddio’n llawn.

“Byddai ail-agor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn gam pwysig tuag at wireddu hyn. Byddai’r llwybr hyn o bwys strategol cenedlaethol fel cyswllt gogledd-de, ac yn hwb gwirioneddol i economi Ceredigion, a gorllewin Cymru gyfan.”

Rhannu |