Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Ebrill 2016

Ymchwilwyr o Aberystwyth yn arwain astudiaeth i beryglon rhewlifoedd yn Chile

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain astudiaeth fawr i'r bygythiadau i gymdeithas a seilwaith yn sgil rhewlifoedd sy’n encilio yn Chile.

Mae’r Athro Neil Glasser o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth a chydweithwyr ym Mhrifysgol Exeter ac yn Chile wedi derbyn £370,000 i weithio ar brosiect fydd yn ymchwilio i achosion ac effeithiau’r peryglon rhewlifol hyn.

Ariannwyd yr astudiaeth ddwy flynedd gan NERC (Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol) a CONICYT Llywodraeth Chile (Comisión Nacional de Investigación Científica y Tecnológica).

Mae'r peryglon a achosir gan fflach-lifogydd o rewlifoedd sy’n toddi yn hen gyfarwydd.

Yn Peru yn unig, achoswyd tua 32,000 o farwolaethau gan fflach-lifogydd o ffynonellau rhewlifol yn ystod yr 20fed ganrif, yn ogystal â dinistrio seilwaith economaidd hanfodol, aneddiadau a thir âr gwerthfawr.

Yn Nepal yr Himalaya, amcangyfrifir y gallai costau sy'n gysylltiedig â dinistrio gorsaf ynni dŵr gan fflach-lifogydd fod yn fwy na 500 miliwn doler.

"Wrth i’r rhewlifoedd encilio mae cronlynnoedd rhew a marian yn ffurfio yn Chile,” dywedodd yr Athro Glasser. "Maen nhw'n fygythiad cynyddol i gymunedau ac isadeiledd i lawr yr afon."

Bydd y prosiect yn ateb cwestiynau ynghylch peryglon rhewlifol hanesyddol, y presennol a'r dyfodol yn Chile, ac yn asesu’r newid ym maint, amlder, a dosbarthiad y peryglon hyn, gan gynnwys llifogydd mawr, o dan newid yn yr hinsawdd fyd-eang presennol a'r dyfodol.

Bydd y tîm yn cynhyrchu’r rhestr gyflawn gyntaf o lifogydd ffrwydrol hanesyddol o lynnoedd rhewlifol yn Chile ac yn nodi safleoedd a allai ddatblygu’n beryglon rhewlifol yn y dyfodol.

Byddant yn defnyddio modelau rhifiadol ar sail ffisegol i efelychu llifogydd ffrwydrol mewn safleoedd a nodwyd fel rhai sy'n cynrychioli perygl uchel ac yn defnyddio’r efelychiadau hyn a rhagolygon perygl a risg o lifogydd a all lywio gwaith cynllunwyr a’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn Chile a gwledydd incwm isel eraill ar draws y byd.

Ychwanegodd yr Athro Glasser: "Mae llifogydd rhewlifol ffrwydrol yn berygl sylweddol i gymunedau a seilwaith mewn llawer o ardaloedd mynyddig y byd, gan gynnwys Chile a nifer o wledydd incwm is eraill.

"Mae'r perygl hwn wedi cynyddu dros y ganrif ddiwethaf wrth i rewlifoedd encilio ac i lynnoedd dyfu o’u blaenau mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd fyd-eang. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n cydweithwyr yn Chile i ddeall sut y gallwn ragweld y perygl a’r risg o lifogydd a all lywio gwaith cynllunwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn Chile a gwledydd incwm is eraill ar draws y byd."

Ym mis Chwefror 2016, yr Athro Glasser oedd prif awdur astudiaeth a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Scientific Reports ar fethiant catastroffig argae ddŵr yn oes yr iâ yn ardal Patagonia yn ne America.

Pan ddraeniodd yr argae, a oedd mewn basn sydd heddiw’n cynnwys Lago General Carrera yn Chile a Lago Buenos Aires yn yr Ariannin, rhyddhawyd tua 1150km³ o ddŵr croyw o’r rhewlifoedd i Fôr yr Iwerydd a’r Môr Tawel.

Cafodd y dŵr, a oedd yn gyfwerth â thua 600 miliwn o byllau nofio maint Olympaidd, effaith sylweddol ar gylchrediad dŵr y Môr Tawel a hinsawdd yr ardal ar y pryd.

Rhannu |