Mwy o Newyddion
Pynciau addysg y dydd dan drafodaeth yn Llanelli
Bydd UCAC, un o undebau addysg mwyaf Cymru, yn cynnal ei gynhadledd flynyddol yn Llanelli, ar 15-16 Ebrill.
Bydd athrawon o bob cwr o Gymru’n ymgynnull er mwyn trafod dros 40 o gynigion ar bynciau llosg byd addysg Cymru: o gwricwlwm newydd i Gymru, i iechyd meddwl disgyblion ac athrawon, i newid cewynnau.
Y penderfyniadau a wneir yn ystod y gynhadledd fydd yn gosod yr agenda ar gyfer trafodaethau’r undeb gyda Llywodraeth newydd Cymru ar ôl etholiadau mis Mai.
Yn ogystal â’r trafodaethau bydd nifer o siaradwyr gwadd, gan gynnwys Yr Athro Mererid Hopwood (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) a fydd yn trafod y berthynas rhwng y Gymraeg a'r Cwricwlwm newydd.
Bydd Serena Davies (Ysgol Gyfun y Preseli) a Dilwyn Owen (Ysgol Gyfun Bro Morgannwg) yn cynnig ysbrydoliaeth i’r cynadleddwyr ynghylch addysgu digidol o fewn y cwricwlwm newydd a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Ar ben-blwydd UCAC yn 75 oed, dyma gyfle aelodau’r undeb i osod eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod – i godi pryderon, i fynnu gwelliannau ac i gynnig syniadau ar gyfer y system addysg rydym ni am ei gweld yng Nghymru
“Gyda Llywodraeth Cymru newydd yn cael ei hethol fis nesaf, gallai penderfyniadau’r Gynhadledd fod yn rhai dylanwadol dros ben. Edrychwn ymlaen yn fawr at drafod blaenoriaethau UCAC gyda’r Gweinidog Addysg newydd.”
Llun: Elaine Edwards