Mwy o Newyddion
Band eang cyflym iawn i bob aelwyd yng Nghymru, a band eang uwch-gyflym erbyn 2025
Mae Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy wedi amlinellu cynigion ei blaid i gynyddu ymdriniaeth band eang a chyflymder cysylltu yn sylweddol yng Nghymru.
Rhoes Llyr Gruffydd fanylion ynghylch sut y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn adeiladu ar gynnydd diweddar Cyflymu Cymru, a buasent yn gweithio i gyflymu cyflwyno band eang cyflym iawn i eiddo lle nad yw eisoes ar gael.
Byddai’r Blaid yn peri bod arian ar gael i awdurdodau lleol i gefnogi cynlluniau lleol unswydd i gyflwyno band eang cyflym iawn i eiddo sydd wedi colli allan dan Cyflymu Cymru.
Byddai cynnig o’r fath yn gofalu na fydd yr un cartref na busnes yng Nghymru wedi ei adael heb fynediad at fand eang cyflym iawn erbyn 2017.
Gan gydnabod pwysigrwydd cysylltiadau band eang cyflym a dibynadwy i economi Cymru, cyhoeddodd Plaid Cymru hefyd gynlluniau i ddatblygu mwy ar ddarpariaeth band eang Cymreig – a hefyd osod targed uchelgeisiol i gyflwyno band eang cyflym iawn i bob cartref yng Nghymru erbyn 2025.
Er mwyn sicrhau y gall pob cartref a busnes yng Nghymru fanteisio i’r eithaf ar oes y rhyngrwyd dros y blynyddoedd i ddod, cyhoeddodd Plaid Cymru hefyd gynigion i gyflwyno ardal arddangos yng ngorllewin Cymru i ddatblygu maes cysylltedd band eang hyper-gyflym.
Dywedodd Llyr Gruffydd o Blaid Cymru: “Mae’r cynigion hyn yn arwydd o ymrwymiad Plaid Cymru i wasanaethu buddiannau pob cwr o Gymru, a gofalu y gall cartrefi a busnesau Cymreig gyrchu’r cyflymderau band eang uchaf – beth bynnag fydd y rheiny.
"Mae Cyflymu Cymru wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i wella cysylltedd cyflym iawn yng Nghymru, ond allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau – rhaid i ni weithredu er mwyn gofalu nad oes yr un cartref, busnes na chymuned yng Nghymru wedi ei adael ar ôl.
"Unwaith i ni sicrhau y gall pobman yng Nghymru gyrchu cysylltedd band eang cyflym iawn erbyn 2017, byddwn wedyn yn gweithredu i weld cyflwyno band eang uwch-gyflym ar hyd a lled Cymru erbyn 2025.
"Nid uwch-gyflym yw’r diwedd, er hynny. Mae Plaid Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd band eang cyflym i’n bunsesau a’n cymunedau, ac felly mewn llywodraeth, buasem yn cefnogi datblygu cyflyderau cysylltu uwch fyth a band eang hyper-gyflym.
"Mae methu â gwneud hyn yn bygwth tanseilio potensial ein heconomi, ac mewn gwirionedd yn gosod terfyn ar ffyniant ein bunsesau a’n cymunedau.”