Mwy o Newyddion
Dilyn ci oedd wedi'i weld yn bawa i'w gartref a dirwyo'r perchennog
Cafodd perchennog ci ddirwy ar ôl i swyddogion y Cyngor fynd ar drywydd ci oedd wedi'i weld yn bawa ym Mro Einon, Llanybydder gan ei ddilyn i'w gartref.
Roedd swyddogion gorfodi materion amgylcheddol yn digwydd bod ar ddyletswydd yn y cyffiniau adeg y digwyddiad.
Gan nad oedd neb gyda'r ci, a oedd yn crwydro yn y cyffiniau, fe'i dilynwyd gan y swyddogion hyd nes iddyn nhw gadarnhau o ble roedd wedi dod.
Cyflwynwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £75 i'r perchennog am fethu codi baw ei gi.
Os nad yw'r unigolyn dan sylw yn talu'r swm o fewn 14 o ddiwrnodau gall gael ei erlyn yn y llys ynadon a chael dirwy o hyd at £1,000.
Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd: “Er nad oedd y perchennog gyda'r ci ar y pryd, mae'n dal i fod yn atebol. Ac roedd wedi cyflawni trosedd trwy beidio â chodi baw'r ci.
"Rydym am atgoffa perchnogion cŵn fod disgwyl bod ganddyn nhw reolaeth ar eu cŵn bob amser, ac na ddylen nhw adael i'w cŵn grwydro.
"Rhoddwch wybod inni am gŵn yn bawa - a hynny ar-lein (lleol-i.sirgar.llyw.cymru) neu drwy ffonio Galw Sir Gâr (01267 234567)."