Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Ebrill 2016

Ysgol Gynradd Dolgellau allan o fesurau arbennig

Mae’r gwaith da sydd wedi ei gyflawni i sicrhau gwelliannau a chodi safonau yn Ysgol Gynradd Dolgellau dros y flwyddyn ddiwethaf wedi golygu bod Estyn, yr arolygiaeth addysg genedlaethol, wedi cadarnhau nad yw'r ysgol bellach angen mesurau arbennig.

Mae Estyn wedi penderfynu tynnu’r ysgol o fesurau arbennig ar y cyfle cyntaf posib yn dilyn ei harolygiad dilynol diweddar. Yn yr adroddiad diweddaraf, mae’r arolygaeth yn nodi fod yr ysgol wedi gwneud “cynnydd cryf” neu “cynnydd da iawn” ym mhob un o’r saith argymhelliad a wnaed yn dilyn yr arolwg gwreiddiol y llynedd.

Mae’r adroddiad yn nodi fod arweinwyr yr ysgol wedi datblygu a gwireddu cynllun gwella’r ysgol a bod “staff a llywodraethwyr wedi cydweithio’n effeithiol i sicrhau gwelliant sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Croesawodd y Parchedig Tim Webb, Cadeirydd corff llywodraethol Ysgol Gynradd Dolgellau adroddiad arolwg diweddaraf Estyn.

Meddai: “Rydw i wrth fy modd bod yr ysgol wedi’i thynnu oddi ar fesurau arbennig, a hynny mewn llai na blwyddyn, sydd yn beth anarferol iawn. Mae hyn yn glod i arbenigedd ein pennaeth dros-dro Mrs Carys E Jones ac i ddoniau a gwaith caled y staff dysgu.

"Fe hoffwn i ddiolch yn wresog iawn iddyn nhw ac i’m cyd-lywodraethwyr am godi’r ysgol yn ôl ar ei thraed, ac rwy’n edrych ymlaen am gydweithio i sicrhau’r addysg orau bosibl i blant Dolgellau yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Carys E Jones, Pennaeth Ysgol Gynradd Dolgellau a gafodd ei phenodi dros dro yn dilyn arolwg gwreiddiol Estyn y llynedd: “Rydw i’n falch iawn dros y staff a’r plant am yr adroddiad hynod bositif yma a hoffwn ddiolch iddynt am eu hymroddiad di-flino wrth wynebu’r sialens o dan arweinyddiaeth newydd

" Mae’n ganlyniad cyd-weithio effeithiol rhyngddynt hwy, y llywodraethwyr a Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion (GwE). Gwelwyd i’r cynnydd sylweddol a’r safonau da arwain at dynnu’r ysgol allan o fesurau arbennig mewn cyfnod byr iawn.

"Yn wir, rydan ni ar ddeall mai dyma’r cyfnod cyflymaf i unrhyw ysgol gael ei thynnu allan o fesurau arbennig.”      

Meddai Arwyn Thomas, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd: “Rydym yn falch iawn bod arolygwyr annibynnol Estyn wedi cadarnhau bod y gwaith da a wnaed yn Ysgol Gynradd Dolgellau yn golygu bod yr ysgol bellach wedi cael ei thynnu oddi ar fesurau arbennig.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae tîm rheoli, staff, llywodraethwyr a rhieni’r ysgol wedi gweithio mewn partneriaeth gydag Adran Addysg y Cyngor i gyflwyno gwelliannau gwirioneddol sydd wedi codi safonau yn Ysgol Gynradd Dolgellau. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r ysgol.”

Rhannu |