Mwy o Newyddion
Cymru'n Un
MAE dau draddodiad llenyddol Cymru wedi closio rhyw ychydig yn ystod y 14 blynedd diwethaf – ac roedd gwir angen iddyn nhw wneud hynny, meddai’r gŵr sydd newydd adael ei swydd yn Brif Weithredwr, Llenyddiaeth Cymru.
Ddydd Gwener diwethaf, roedd Peter Finch yn rhoi’r gorau i arwain yr asiantaeth sy’n noddi cyfarfodydd a theithiau llenyddol ar hyd a lled Cymru ac sy’n rhoi grantiau ac ysgoloriaethau i awduron er mwyn eu galluogi i gymryd amser i ffwrdd o’u gwaith er mwyn ysgrifennu.
Yn y cyfnod hwnnw, meddai, mae’n ymfalchïo’n fwy na dim yn sefydlu swydd Bardd Cenedlaethol Cymru; yn y cynnydd sydd wedi bod yn y sylw i gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn; ac i greu Sgwadiau Sgwennu ar gyfer pobl ifanc ym mhob sir yng Nghymru.
Mae Peter Finch yn mynd cyn belled â dweud mai sin llenyddol y Gymru newydd a ddyfeisiodd ‘Cymru’n Un’ – flynyddoedd cyn bod llywodraeth glymblaid Llafur-Plaid Cymru Bae Caerdydd yn rhoi’r enw hwnnw ar eu maniffesto cyfun.
Erbyn hyn, meddai, mae’r gwleidyddion a oedd yn arfer dadlau bod llenyddiaeth a’r celfyddydau yn ychwanegion drudfawr, diangen, yn gweld gwerth i’r disgyblaethau creadigol sy’n gallu creu swyddi o werth, atgynhyrchu balchder cenedl, a bod yn sail i dwristiaeth ddiwylliannol a all fod yn rhan o adfywiad economaidd.
“Sa’ i’n credu mai cyd-ddigwyddiad yw e fod Cymru wedi sicrhau datganoli yn 1997, wedi cael ei Chynulliad ei hun yn 1999, a bod yna gynnydd wedi bod yn y gweithgarwch llenyddol oddi ar hynny,” meddai Peter Finch wrth Y Cymro.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA