Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Chwefror 2011

Plant yn byw mewn tlodi difrifol

MAE angen gwneud mwy i fynd i’r afael â thlodi plant difrifol yng Nghymru medd Achub y Plant wrth gyhoeddi ystadegau newydd.

Mae’r elusen yn galw ar Ganghellor Llywodraeth Prydain i lunio cynllun argyfwng i fynd i’r afael â thlodi plant wrth i ystadegau newydd ddatgelu bod y niferoedd o blant sy’n byw mewn tlodi difrifol yn parhau yn annerbyniol o uchel ar 1.6 miliwn.

Yng Nghymru mae’r ffigwr yn uwch nag yn holl genhedloedd eraill y DU – yn 14% sef tua 90,000 o blant – gyda Lloegr yn dilyn (13%) yna Yr Alban a Gogledd Iwerddon (9% yr un).

Yn ôl Achub y Plant y diffiniad o dlodi plant difrifol yw rhiant sengl gydag un plentyn o dan 14 oed sy’n byw ar incwm o lai na £7,000 y flwyddyn a chwpl gyda dau o blant o dan 14 oed sy’n byw ar lai na £12,500 y flwyddyn.

I ddarllen y stori i gyd  CLICIWCH YMA  neu prynwch Y Cymro.

Rhannu |