Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Ebrill 2016

Galw am warant gan y Prif Weinidog y bydd osgoi talu trethi yn anghyfreithlon yn ei holl ffurfiau

Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi galw ar y Prif Weinidog i ddefnyddio’i bwerau i sicrhau fod osgoi talu trethi ym mhob ffordd yn anghyfreithlon, gan rybuddio bydd ei weithredoedd o hyn allan yn debygol o brofi ei hygrydedd fel Prif Weinidog. 

Roedd Liz Saville Roberts AS yn ymateb i Ddatganiad gan y Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin brynhawn ddoe.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Mae datguddiadau diweddar yn dilyn gollyngiad digynsail o ffeiliau o gronfa ddata un o gwmnïau cyfreithiol mwyaf y byd yn tynnu sylw at y myrdd o ffyrdd y gall bobl gyfoethog fanteisio ar gyfundrefnau cyfrinachgar gwledydd eraill i osgoi talu trethi.

“Hyd yn hyn, mae pobl wedi eu twyllo gan honiad y Prif Weinidog ein bod 'i gyd yn hyn gyda'n gilydd', pan yn amlwg fod yna un rheol ar gyfer y rhai cyfoethog ac un arall i bobl gyffredin, gweithgar sy'n talu eu trethi.

“Mae gan Brydain rôl ganolog ac allweddol i'w chwarae, o ystyried bod tua hanner y gwledydd sy'n darparu hafan i osgoi talu trethi yn cael eu rheoli yn uniongyrchol o Lundain, megis y British Virgin Islands.

“Mae'r llywodraeth yn rheoli yr hyn sy'n gyfreithiol a beth sy'n anghyfreithlon o dan y gyfraith dreth. Rhaid i'r Prif Weinidog warantu i drethdalwyr gonest y bydd osgoi talu trethi trwy symud arian i wledydd eraill yn anghyfreithlon yn ei holl ffurfiau.

“Mae gan y Llywodraeth ddyletswydd i weithredu a bydd y mater hwn yn y pen draw yn profi prawf sylfaenol hygrededd y Prif Weinidog.” 

Rhannu |