Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Ebrill 2016

Sgwrs efo Wyn Bowen Harries, cynhyrchydd/cyfarwyddwr Mr Bulkeley o’r Brynddu

Sut ymateb gafodd y daith gyntaf?

"Ar y cyfan, roedd yr ymateb yn anhygoel o dda, efo rhai llefydd wedi gwerthu pob tocyn. Roedd wedi gafael yn nychymyg lot fawr o bobol. Hynny ydy, roedd pawb ym mhobman wedi mwynhau, er efallai nad oedd cymaint o gynulleidfa mewn ambell le, ar y cychwyn, ond aeth y gair ar led am y sioe a’i helpu i werthu!

"Rwy’n meddwl fod pobol wedi mwynhau cael adloniant, ond hefyd wedi cael teimlad o beth oedd hanes bywyd go iawn yn y cyfnod yma ‘roedd William Bulkeley yn byw ynddo, oherwydd ei fod yn cael ei adrodd drwy eiriau William Bulkeley ei hun: nid ffuglen oedd hyn. Roedd yn teimlo’n real iawn a dyma sut oedd bywyd, a’r math o bethau oedd yn digwydd pan roedd o’n ysgrifennu ei ddyddiadur."

Pa elfennau eraill oedd yn plesio’r gynulleidfa?

"O ran y perfformiad, roedd y ffaith fod dau actor yn chwarae’r holl rannau’n eithaf trawiadol hefyd. Roedd ambell un yn ei chael hi’n anodd credu mai dim ond dau actor oedd yn chwarae’r holl gymeriadau hyn – sydd yn glod mawr i’r actorion ac i’r cynhyrchiad a dweud y gwir, bod y peth yn gweithio yn ei gyfanrwydd.

"Ro ni’n hapus iawn efo’r ffordd oedd y peth yn gweithio a gyda’r gerddoriaeth wedi’i threfnu gan Stephen (Rees, Cyfarwyddwr Cerdd) – roedd o wedi creu’r gerddoriaeth a dewis caneuon o’r cyfnod, rhai ohonyn nhw o’r dyddiaduron eu hunain, er mwyn creu awyrgylch y peth – ac roedd yr holl beth wedi asio yn dda efo’i gilydd.

"Does dim llawer y baswn yn ei newid, roedd pawb i weld yn hapus iawn efo fo. Er bydd rhaid ail edrych ar y sgript cyn y daith nesaf!"

Oedd yna fwy o bethau y baset ti wedi licio eu rhoi mewn?

"Roedd yna bob math o wahanol bethau baswn wedi licio eu rhoi mewn, ond gan ‘mod i wedi penderfynu y dylai’r sioe fod yn awr a hanner o hyd, heb egwyl, a chyflwyno dim ond darn o fywyd y cyfnod, roedd rhaid gadael lot allan o’r drafft cyntaf.

"Roedd yr actorion (Rhodri Siôn, Manon Wilkinson) wedi cyfrannu llawer hefyd, o ran beth oedd yn gweithio iddyn nhw, o’r ochr ddramatig ac yn ymarferol at lwyfan. Yn bendant roedd lot o bethau diddorol wedi’u gadael allan. Os ydi pobol wedi gweld y sioe a chymryd diddordeb yna byddai’n bosib iddyn nhw fynd at y dyddiaduron (gan eu bod ar gael ar lein http://bulkeleydiaries.bangor.ac.uk/) a phori yno’u hunain, os ydyn nhw efo diddordeb.

"Roedd rhaid defnyddio rhywfaint o ‘poetic licence’ hefyd er mwyn gwau stori. Ond rwy’n credu mod i wedi bod yn driw i’r hen William Bulkeley, gan nad ydw i wedi dechrau dychmygu sefyllfaoedd  newydd na dim felly, yr unig beth ‘dw i wedi’i ddychmygu yw’r cwpl o olygfeydd rhyngddo a’i ferch a’i fab, a hynny er mwyn naratif y stori. Y peth pwysicaf yn fy marn i yw dweud stori dda, ac yn yr achos yma, defnyddio dyddiaduron William Bulkeley i ddweud y stori.

"Does dim disgrifiad, er enghraifft, o sut oedd Fortunatus Wright (y ‘morleidr’) yn ymddwyn efo Mary, merch William, dim ond cyfeiriad at y ffaith ei bod hi wedi dod yn ôl ac wedi’i brifo ganddo. Roedd rhaid, felly, dychmygu sefyllfa bosib, ond mae’r math yna o bethau’n gyfle i ddweud y stori hefyd.

"Mae rhai o’r caneuon sy’n cael eu defnyddio hefyd yn gwthio’r stori ymlaen. Tra mae William yn ymweld â Dulyn er enghraifft, mae’n ysgrifennu, “Went to see the Beggar’s Opera,” a dyna gyfle felly, i ddefnyddio cân o’r Beggar’s Opera i ddarlunio’r union fath o gerddoriaeth yr oedd William wedi ei glywed, ac mae rhai o’r caneuon clasurol a gwerin yn dal i fod o gwmpas i’w clywed wrth gwrs."

Nes di gyrraedd canlyniadau am gymeriad WB neu’r cyfnod wrth berfformio’r peth?

"Dois i nabod William Bulkeley yn well wrth sylweddoli beth oedd ei agwedd at wahanol bethau, er nad ydy ei farn am unigolion ddim yn glir bob tro. Ryw sefyll yn ôl mae WB a disgrifio’r hyn mae’n ei weld. Ond yna, pan mae o’n mynd yn sâl ti’n cael y teimlad o sut ddyn oedd o a gymaint mae o’n mwynhau pethau fel ymladd ceiliogod, gymaint mae’n mwynhau cael ‘sesh’ ar 12th night a phethau fel hyn efo’i weithwyr, “after last night’s debauch’ a phethau felly."

Wyt ti’n meddwl fel dyddiadurwr fod ganddo un llygad ar bwy fydd yn darllen y dyddiadur yn y dyfodol?

"Mae hwn yn gwestiwn anhygoel o dda, dw i ddim yn gwybod be di’r ateb! Dw i’n amau ei fod yn sgwennu iddo fo’i hun, yn arbennig y darnau pan mae’n son am y tywydd bob dydd. Dyma gyfnod o ddiddordeb mewn gwyddoniaeth ac arsylwi, a chwyldro amaethyddol. Dw i’n amau ei fod yn gwneud hyn i geisio bod yn rhan o’r wyddoniaeth newydd a’r ffordd oedd pobol yn nodi pethau a thrio gweithio pethau allan er mwyn cael ffordd well o ffermio’r tir, er enghraifft, gan mai amaethwr oedd o.

"A dyna pam ei fod yn nodi pob dim sy’n tyfu a pha bryd, oherwydd mae’n son yn rhai llefydd bod ei weithwyr yn dweud wrtho y dylai blannu ar ddyddiad arbennig yn ôl hen ofergoelion, er mor wahanol gall y tymhorau fod o flwyddyn i flwyddyn. Er nad ydi o’n wyddonydd, mae’n ymuno ag ‘ethos’ y cyfnod, yn sicr, wrth nodi pob dim.

"Wnaeth o ddim dechrau dyddiadura nes ei fod tua 34 mlwydd oed ac yna ysgrifennodd am 35 mlynedd wedyn.

"Mae darn o’r dyddiaduron ar goll yn y canol – does dim son am y Jacobite rebellion – dydyn ni ddim mewn gwirionedd yn gwybod rhyw lawer am ei wleidyddiaeth."

Pam mynd â Mr Bulkeley ar daith eto?

"Gyda’r daith olaf wedi canolbwyntio ar y gogledd, teimlo oeddwn i y gallem ni gyrraedd mwy o bobol. Roedd pobol yn gofyn a oeddem am ei wneud eto – eisio’i wylio eto, ac eraill heb gael y cyfle. Felly’r tro hyn da ni’n mynd ag ef i rannau newydd o’r wlad ac yn gwneud taith genedlaethol, yn ogystal â mynd â fo at Gymry Llundain. Roedd cael nawdd gan y Cyngor Celfyddydau yn gwneud taith arall yn bosib, a chan fod y stori mor dda, rwy’n meddwl ei bod ddigon teg i’w wneud eto."

Mae’r sioe’n un ddigon gwahanol i’r arfer:

"Ydy, mae’n siarad yn uniongyrchol efo’r gynulleidfa drwy ddarllen y dyddiaduron, efo’r darnau dramatig yn cario’r stori ymlaen.

"Dydy hi ddim yn ddrama gonfensiynol, ond yn ffurf reit ddiddorol – roedd gen i ddiddordeb mewn ffurf wahanol o ddweud stori, a dw i’n meddwl ein bod ni wedi llwyddo ac yn edrych ymlaen at ei wneud  eto a dweud y gwir, achos roedd yr ymateb yn grêt. Mae’r sioe yn cynnwys lot o chwerthin, ochr yn ochr â darnau reit emosiynol. Mae’n cynnig adloniant, ac, er nad oes rhaid dysgu rhywbeth o fynd i’r theatr, mae’n cyflwyno hanes mewn ffordd ysgafn.

"Rydym hefyd mewn cyfnod diddorol yn hanes Cymru, ac efallai un nad ydym yn ei ystyried rhyw lawer: Mae’n gyfnod cyn i anghydffurfiaeth gydio ar raddfa eang, a chyn i’r chwyldro diwydiannol gael argraff fawr ar y gymuned.

"Er ein bod yn sôn am Gymru wledig, yr hyn sy’n ddifyr ydy faint oedd pobol yn teithio. Roedd lot o deithio ar y môr, roedd yn haws mynd ar y môr na thros y tir yn ystod y cyfnod. Roedd cyflwr y lonydd a oedd yn bodoli ar y pryd yn warthus – roedd pobol i fod i weithio un diwrnod y flwyddyn ar y ffyrdd yn eu plwyf, ond doedd neb yn trafferthu am fod y ffyrdd mor ofnadwy. Ond eto, roedd rhaid i bobol deithio, boed yn borthmyn neu’n uchelwyr, roedd rhaid teithio i gael mynediad at addysg a’r gyfraith er enghraifft. Mewn un lle yn y dyddiaduron mae WB yn son fod ei fab yn dweud: ‘took me only three days to get from London,’ sy’ ddim yn ddrwg ar gefn ceffyl yr holl ffordd i Sir Fôn!"

Rhannu |