Mwy o Newyddion
Trechu newid yn yr hinsawdd un goeden ar y tro
Mae Prosiect o Gymru yn helpu cymunedau lleol ym More, Kenya i blannu dros hanner miliwn o goed i helpu yn ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Mae’r Cyswllt Cymunedol Carbon (CCL) yn Llanbedr Pont Steffan wedi tyfu dros 130,000 o egin blanhigion hyd yma ac maent bron iawn â chyrraedd eu targed o 500,000.
Mae’r prosiect yn gweithio gyda ffermwyr dyfeisgar sy’n fenywod yn Kenya drwy eu cynorthwyo i gadw eu coedwigoedd trofannol sydd mewn perygl, sy’n hanfodol ar gyfer amsugno carbon deuocsid a darparu cysgod hanfodol mewn adegau o wres eithafol.
Ymwelodd Cat Jones, Pennaeth Partneriaeth yn Hub Cymru Affrica â’r prosiect yn ddiweddar a dywedodd: “Er ein bod yn profi newid yn yr hinsawdd yn ôl adref, yn aml y rhai hynny yn y gwledydd datblygol sy’n cael eu heffeithio fwyaf, gallwn weld hyn gyda’r sychder distrywiol sydd ledled de Affrica ar hyn o bryd.
“Llwyddodd gweld y prosiect o lygad y ffynnon i fy helpu i ddeall sut mae’r gymuned leol yng nghanolbarth Cymru yn creu partneriaethau pwysig a allai helpu wrth fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd. Os bydd pawb yn chwarae eu rhan mae’n bosibl gwneud gwahaniaeth.”
Dywedodd Ru Hartwell o Gyswllt Carbon Cymunedol: “Mae’r cymunedau lleol ym More wedi sefydlu a chynnal tair planhigfa ac unwaith bydd y glaw yn dod, byddant yn dechrau dosbarthu’r egin blanhigion i 124 o ysgolion partner a grwpiau cymunedol.
“Yn ogystal ag arafu newid yn yr hinsawdd, mae plannu’r coed yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth pwysig i weithwyr lleol, eu galluogi i addysgu eu plant a chefnogi eu teuluoedd.”
Bydd y cynllun uchelgeisiol yn dod â manteision i Gymru hefyd gyda myfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dysgu am ecosystemau’r coedwigoedd, tra bydd trefn monitro’r prosiect yn galluogi ymchwilwyr ôl-raddedig i ennill profiad mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a chyfrifiadau carbon deuocsid – y cyfan yn angenrheidiol i fesur y manteision o blannu’r coed.
Yng Nghymru mae dros 350 o gysylltiadau cymunedol gyda phartneriaid yn Affrica, llawer ohonynt a gefnogir gan Hub Cymru Affrica drwy ein rhaglen grant, hyfforddiant a meithrin gallu.
Cefnogir CCL gan Maint Cymru a Hub Cymru Affrica, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Llun: Disgyblion Ysgol Ziwani, Bore, Kenya