Mwy o Newyddion
'Diwrnod Hyfryd Sali Mali' – Sioe nesaf Arad Goch
Mae’n ben-blwydd ar Sali Mali, ond mae hi’n meddwl bod pawb wedi anghofio, felly mae hi wedi mynd am dro a does neb yn gallu dod o hyd iddi. Ble mae hi wedi mynd? Mae angen cael parti!
Yn seiliedig ar gymeriadau gwreiddiol a chlasurol Mary Vaughan Jones, mae ‘Diwrnod Hyfryd Sali Mali’ yn gynhyrchiad newydd sbon gan Gwmni Theatr Arad Goch sydd yn eich tywys i fyd anturus a hudolus Sali Mali.
Bydd ‘Diwrnod Hyfryd Sali Mali’ yn gynhyrchiad lliwgar a bywiog gyda llawer o gerddoriaeth a chaneuon wedi eu harwain gan Sali Mali, Tomos Caradog a nifer o’i ffrindiau!
“Rwy’n edrych ymlaen at bortreadu cymeriad mor adnabyddus,” dywed Ffion Wyn Bowen, sydd yn chwarae rhan Sali Mali yn y cynhyrchiad. “Ro’n i’n darllen llyfrau Sali Mali pan roeddwn i’n blentyn, felly rwy’n edrych 'mlaen i ddod a’r byd a’r cymeriadau yn fyw i blant heddiw!”
Yn ôl Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch a chyfarwyddwr y cynhyrchiad: “Mae bob tro yn bleser i gynhyrchu drama newydd i blant bach, mae eu byd nhw mor arbennig a chyffrous.”
Bydd y sioe yn mynd ar daith o gwmpas Cymru rhwng y 7fed o Fehefin a’r 8fed o Orffennaf. Fe fydd y sioe gyntaf yn Aberystwyth, am 10:00 y bore ar y 7fed o Fehefin yng Nghanolfan y Celfyddydau, cyn symud ymlaen i Gaernarfon, Pwllheli, Aberhonddu, Caerdydd, Caerfyrddin, Llangadfan, Pontypridd, Merthyr Tudful, Felinfach, Aberteifi, Yr Wyddgrug a gorffen ym Mangor. Hefyd, bydd yna berfformiadau ychwanegol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar y 6ed o Awst.
Mae’r sioe, sydd yn para tua awr o hyd, yn addas i blant 3-7 a’u teuluoedd.