Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn addo rhoi llais cryf i'n cymunedau gwledig
Bydd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ffermio a Bwyd, Llyr Gruffydd, heddiw’n lansio Maniffesto Amaeth ei blaid, gan addo y byddai llywodraeth Plaid Cymru’n rhoi llais cryf i gymunedau gwledig Cymru.
Wrth ymweld a fferm yn Sir Gar gyda’i gyd-ymgeiswyr Elin Jones (Ceredigion), Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr), a Simon Thomas (Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro), bydd Llyr Gruffydd yn amlinellu cynlluniau Plaid Cymru i sicrhau fod gan ddiwydiant amaeth Cymru ddyfodol llewyrchus.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys mesurau i daclo "llanast" Llafur ar CAP (y Polisi Amaethyddol Cyffredin), cael gwared ar y rheol dim-symud chwe niwrnod sy’n rhwystr i fusnesau fferm, cyflwyno strategaeth i arbed ffermydd cyngor rhag cael eu gwerthu, a chynyddu faint o fwyd Cymreig sy’n cael ei brynu gan y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Llyr Gruffydd, sy’n byw ar fferm deulu ei hun: “Os cawn ein hethol fis Mai, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn addo rhoi llais cryf i gymunedau gwledig Cymru.
“Am lawer rhy hir, mae Gweinidogion Llafur wedi tanseilio ein diwydiant amaeth hanfodol drwy wneud Cymru y wlad sydd wedi ei chyfaddasu fwy nag unrhyw le arall yn Ewrop – penderfyniad sydd wedi cymryd £250m o bocedi ffermwyr Cymreig.
“Mae Plaid Cymru eisiau gwneud yn iawn am hyn drwy gyflwyno polisiau fydd yn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r diwydiant.
“Mae ein maniffesto amaeth yn cynnwys cynlluniau uchelgeisiol ond ymarferol i ddatrys llanast CAP Llafur a sicrhau fod gan ffermwyr Cymreig lais cryfach mewn trafodaethau symleiddio CAP, a chael gwared ar y rheol dim-symud chwe diwrnod sy’n rhwystr i fusnesau fferm mewn cyfnod pan fo angen mwy o hyblygrwydd.
“Byddem hefyd yn cyflwyno strategaeth i arbed ffermydd cyngor rhag cael eu gwerthu, dan raglen ehangach i gefnogi dechreuwyr newydd yn y diwydiant.
“Fel rhan o gynlluniau ehangach Plaid Cymru i godi lefelau caffael ledled Cymru, byddem yn sicrhau fod y diwydiant amaeth hefyd yn elwa o hyn drwy gynyddu faint o fwyd Cymreig sy’n cael ei brynu gan y sector cyhoeddus.
“Mae gan Blaid Cymru record gref o gefnogi amaeth ac ymgyrchu dros wasanaethau gwledig. Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi’r maniffesto cynhwysfawr hwn ac i drafod y syniadau ynddo gyda’r sector ffermio Gymreig.”