Mwy o Newyddion
Yn ôl i oes y Rhufeiniaid yn Theatr Fach Llangefni
UN o’r uchafbwyntiau yng ngalendr cynhyrchiadau Theatr Fach Llangefni ydi’r sioe gomedi a’r sioe ddiweddara ydi Romans!, a fydd yn cael ei llwyfannu nos Fercher 27 Ebrill i nos Sadwrn 30 Ebrill am 7.30pm.
Hon ydi 12fed sioe y mae’r criw wedi ei llwyfannu ac mae’r sioeau wastad yn boblogaidd gan ddenu tŷ llawn bob nos.
Er tydi’r sioe ddim yn addas i’r sawl sydd braidd yn groen denau ac yn cael eu pechu’n hawdd!
Marlyn Samuel ac Iwan Evans, gŵr a gwraig o Pentre Berw sy’n gyfrifol am y sgript ac Iwan hefyd sy’n gyfrifol am y caneuon.
Yn rhai o’r sioeau’r gorffennol aethpwyd â’r gynulleidfa i fyd y cowboi yn y sioe Cowbois, i fyd James Bondaidd yn y sioe Ai Sbei, ac i fyd megis Downton Abbey yn y sioe ddiwethaf Fyny Lawr.
Eleni cawn deithio’n ôl i oes y Rhufeiniaid yng nghwmni Macsen Llacbeth a’i deulu.
Mae Macsen a’i fab Bleddyn o Fôn dirion deg yn cael eu herwgipio gan y Rhufeiniaid i ymladd fel gladiators yn yr Amffitheatr fawr yn Rhufain. Be fydd tynged y ddau tybed?
Dau sydd wedi bod ynghlwm â’r sioeau ers y cychwyn, yn actio, ac yn cyfarwyddo’r sioeau ers sawl blwyddyn bellach, ydi Richard Edwards a Dafydd Roberts.
Falle welsoch chi rwtin hynod o ddoniol y ddau ar raglen Noson Lawen S4C yn ddiweddar, hefo’u dawns unigryw, sef dawns y tyweli. Gwelwyd y ddawns honno gyntaf yn y sioe Fyny Lawr.
“Mae’n braf bod yn ôl yn ymarfer hefo’r hen griw eto, a chael croesawu gwaed newydd i’r cast, cast o bymtheg i gyd,” meddai Dafydd Roberts.
“Mae ‘na lot fawr o hwyl a thynnu coes i gael yn ogystal â phoeni bod yr amser ymarfer yn mynd yn rhy sydyn.
“Ond mae o i gyd werth o pan glywn ni’r gynulleidfa’n ymateb ac yn chwerthin llond eu boliau”.
“Yndi wir,” ategodd Richard Edwards. “Chwerthin ydi’r ffisig gora medda nhw. A ma ‘na lot fawr o chwerthin yn y sioe yma.”
I sicrhau tocyn ffoniwch 01248 725 732 neu mae tocynnau ar gael yn siop Cwpwrdd Cornel Llangefni. Anaddas i rai dan 18 oed.
Llun1 - Mona Llacbeth (Manon Wyn Williams), Bleddyn Llacbeth (Richard Edwards) a Macsen Llacbeth (Dafydd Roberts)