Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Mehefin 2011
Karen Owen

Dim mwy o Hywel na Champ Lawn?

RHOI’R gorau i gyflogi’r darlledwr Hywel Gwynfryn i deithio Cymru; rhoi’r gorau i raglen chwaraeon Camp Lawn ar brynhawn Sadwrn; a thorri’n ôl nifer y rhaglenni gyda’r nos i ddwy yn unig, ydi’r ffordd gyntaf o dorri’n ôl ar wariant Radio Cymru, yn ôl dogfennau cyfrinachol sydd wedi dod i ddwylo Y Cymro.

Mae’r argymhellion yn rhan o gynllun ehangach gan BBC Cymru i arbed 20% o’u gwariant. Ac mae’r cynllun ehangach yn golygu cau, i bob pwrpas, ganolfan ddarlledu Bryn Meirion, Bangor; torri’n helaeth ar gyflwynwyr ac oriau darlledu Radio Wales; a rhoi’r gorau i nifer o raglenni materion cyfoes Cymraeg a Saesneg ar radio a theledu.

Ddydd Gwener diwethaf, roedd aelodau staff pryderus y BBC ym Mangor a Chaerdydd yn rhyddhau’n dawel fach i’r wasg a’r cyfryngau fanylion a ddatgelwyd wrthyn nhw mewn cyfarfodydd brys yn y ddau le’r diwrnod hwnnw.

Roedd hynny bythefnos yn unig wedi i’r papur hwn ofyn yn blwmp ac yn blaen i Bennaeth y Gogledd BBC Cymru, Wendy Rees, a ydi Bryn Meirion dan fygythiad yn dilyn buddsoddiad helaeth gan y Gorfforaeth mewn stiwdio radio newydd sbon danlli lai na 60 milltir i ffwrdd ar gampws Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam – a chael yr ateb nad oedd pwrpas “mynd o flaen gofid”.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |