Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Ebrill 2016

Elusen yn lansio brand iaith Gymraeg newydd

Mae elusen flaengar Cymraeg wedi lansio brand newydd dwyieithog mewn bwriad i wella eu gwasanaethau a’i chefnogaeth i bobl Cymru.

Lansiodd Action on Hearing Loss Cymru brand Cymraeg ‘Gweithredu Ar Golled Clyw Cymru’ a fydd yn cael ei ddefnyddio gydag unrhyw ddeunyddiau a chyhoeddiadau Cymraeg.

Bydd unrhyw ddeunydd Saesneg yn parhau i ddefnyddio’r brand Saesneg ‘Action on Hearing Loss Cymru’.

Mae un ym mhob chwe pherson yng Nghymru yn fyddar neu’n drwm eu clyw a Gweithredu Ar Golled Clyw Cymru yw’r prif fudiad yng Nghymru sydd yn helpu’r bobl yma; llawer ohonynt hwy yn archolladwy ac mewn risg o gael eu hynysu.  Mae cyfran sylweddol o rain yn siaradwyr Cymraeg ac mae disgwyl i’r elusen adlewyrchu hwn.

Mae ymchwil gan swyddfa Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn dangos fod 70% o bobl yng Nghymru yn cytuno dylai elusennau sydd yn gweithredu yng Nghymru farchnata yn ddwyieithog, ac mae hwn yn rhan o ymgyrch gan yr elusen i wneud yn siŵr fod mwy o wybodaeth a gwasanaethau ar gael yn Gymraeg.

Dywedodd Richard Williams, Cyfarwyddwr Gweithredu Ar Golled Clyw Cymru: “Rydym yn ystyried hi’n bwysig i ni allu cyflwyno ein hunain yn Saesneg, yn Gymraeg a hefyd drwy Iaith Arwyddion Prydain i bobl sydd yn defnyddio ein gwasanaethau a’r cyhoedd.

“Bydd y brand Cymraeg newydd yn adlewyrchu’n well bod llawer o’n haelodau, gwirfoddolwyr a defnyddwyr ein gwasanaethau yn siarad Cymraeg, a bydd y brand yn helpu i ni gysylltu’n well gyda’n cefnogwyr a helpu ni i gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl yng Nghymru.

“Mae ymchwil yn dangos bod elusennau dwyieithog yn fwy llwyddiannus yn denu rhoddion, buddsoddiad a gwirfoddolwyr ac rydym yn edrych ymlaen at weld y buddion o gyflwyno’r brand yma wrth i ni gynnig hyd yn oed mwy o wasanaethau ar draws Cymru.”

Mae sefydlu brand iaith Gymraeg yn gam pwysig o Gynllun Hybu’r Gymraeg yr elusen, sydd wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth a swyddfa Comisiynydd yr Iaith Gymraeg.

Dywedodd Meri Huws, Comisiynydd yr Iaith Gymraeg: “Mae’n galonogol gweld brand ‘Gweithredu ar Golled Clyw Cymru’ yn cael ei lansio heddiw; a’r elusen yn mynd ati i baratoi a darparu gwybodaeth i’r cyhoedd yn Gymraeg. 

“Mae’n hollbwysig bod pobl yn gallu trafod materion iechyd a materion sensitif yn yr iaith y maent fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio. Drwy gyhoeddi brand Cymraeg newydd, mae’r elusen yn rhoi neges glir o’r cychwyn eu bod yn cydnabod pwysigrwydd trafod â phobl yn eu dewis iaith. 

“Wrth i Gweithredu ar Golled Clyw Cymru fynd ati i baratoi Cynllun Hybu’r Gymraeg, gobeithiaf eu gweld yn datblygu eu gwasanaethau Cymraeg yn bellach i adlewyrchu’r statws swyddogol sydd gan yr iaith yng Nghymru heddiw.”

Rhannu |