Mwy o Newyddion
Dathlu deugain mlynedd o wasanaeth radio ysbyty
GAN fod gwasanaeth radio ysbyty wedi dechrau ym Mangor ddeugain mlynedd yn ôl i’r mis hwn mae’r trefnwyr presennol am ddathlu drwy gynnal diwrnod agored y Sadwrn yma.
Mae un neu ddau o’r rhai a fu wrthi’n wreiddiol yn sefydlu Radio Ysbyty Môn ac Arfon yn dal yn driw i’r gwasanaeth dyddiol yn Ysbyty Gwynedd.
Dechreuodd Radio C&A adeg y Pasg, 1976 gyda darllediad ar nos Sul yn unig o un o ystafelloedd yr ysbyty.
Yn araf datblygwyd y gwasanaeth ac addaswyd carafan yng nghefn yr adeiliad i ddarlledu ohoni.
Dyma pryd y clywyd Eifion Pennant Jones (Jonsi) ar y radio gyntaf. Roedd yn cyflwyno rhaglen geisiadau i’r cleifion. Ar y pryd yr oedd yn troelli disgiau mewn nosweithiau ar hyd a lled y gogledd.
Pan symudwyd i Ysbyty Gwynedd yn 1985 cafwyd stiwdio fwy pwrpasol o fewn yr adeliad.
Ers hynny maent wedi cael stiwdio newydd yn y fan y bwriadwyd iddi fod ar y dechrau, yn y coridor sy’n mynd am y wardiau o’r brif fynedfa a’r cyhoedd yn ei gweld wrth ymweld â’r ysbyty.
Roger Richards, cyn ŵr camera gyda HTV, oedd cadeirydd gwreiddiol Radio C&A ac mae’n dal yn gadeirydd y gwasanaeth ers iddo symud i Ysbyty Gwynedd. Ef hefyd sy’n gwneud llawer o’r gwaith technegol.
Mae rhaglenni dathlu’r deugain wedi eu paratoi a chyflwynir yr un Gymraeg gan Derec Owen o Lanfairpwllgwyngyll.
Un o’i westai yw Dafydd Iwan a bu’n holi rhai eraill oedd yn ymwneud â’r radio ysbyty ar y dechrau.
Mae apêl am ragor i wirfoddoli gyda’r gwasanaeth, yn gyflwynwyr ac i helpu i fynd o gwmpas y wardiau i hel ceisiadau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth yn ystod y diwrnod agored yfory rhwng 10.00 a 4 o’r gloch neu ar www.radioysbytygwynedd.com