Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Ebrill 2016

Sefydlu Cerdyn Clyfar Cenedlaethol i sicrhau hawliau cyffredinol

Bydd Plaid Cymru yn sefydlu system Cerdyn Clyfar er mwyn sicrhau hawliau cyffredinol i bawb sy'n byw yng Nghymru.

Drwy'r system, bydd gan bobl fynediad i hawliau cyffredinol yn cynnwys presgripsiynau am ddim, teithio ar fws am ddim i bobl dros 60 oed, a mynediad am ddim i amgueddfeydd.

Bydd Plaid Cymru yn gweithio tuag at ehangu'r hawliau hyn pan fydd gan Gymru'r grym i wneud hynny, gan gynnig dim costau Tollau Hafren i ddinasyddion, a theithio bws a rheilffordd anghyfyngedig ledled Cymru am un ffi flynyddol.

Wrth lansio'r polisi heddiw, dywedodd Simon Thomas fod y cerdyn yn symbol o berthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r dinasyddion mae'n eu gwasanaethu.

Dywedodd ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro: "Bydd Plaid Cymru yn sefydlu ffordd newydd o weithio ar draws llywodraeth, a rhwng y llywodraeth a'r dinesydd, gan ddelifro'n effeithiol dros bobl Cymru.

"Os y cawn ein hethol fis Mai, bydd Plaid Cymru yn creu Cerdyn Clyfar i bawb sy'n byw yng Nghymru, a fydd yn troi'n brif system o sicrhau hawliau cyffredinol.

"Bydd Cerdyn Clyfar Plaid Cymru yn sicrhau presgripsiynau am ddim, teithio bws am ddim i bobl dros 60 oed, mynediad am ddim i amgueddfeydd a llawer mwy.

"Ac wrth i'r Cynulliad gael grym dros agweddau eraill megis tollau Pont Hafren, byddwn yn cael gwared ar y costau hyn i bawb sy'n cario'r cerdyn.

"Bydd Plaid Cymru'n sefydlu perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a phobl Cymru, ac mae ein Cerdyn Clyfar yn symbol o hynny."

Dywedodd Bethan Jenkins ymgeisydd Plaid Cymru dros Aberafan: "Bydd Cerdyn Clyfar Plaid Cymru yn sicrhau hawliau cyffredinol am ddim i bobl Cymru.

"Dan lywodraeth Plaid Cymru bydd eich Cerdyn Clyfar yn sicrhau mynediad i chi i deithio bws am ddim, mynediad am ddim i amgueddfeydd a chyfres o hawliau eraill, ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu'r rhestr hon yn y dyfodol.

"Mae'n bryd am lywodraeth sy'n canolbwyntio ar yr hyn y gall ei ddelifro dros bobl Cymru ac mae Plaid Cymru'n cynrychioli'r newid sydd ei angen."
 

Rhannu |