Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Ebrill 2016

Noson yn Pontio i ddathlu Theatr Gwynedd

Darparodd Theatr Gwynedd, rhagflaenydd Pontio, gartref i’r ddrama Gymraeg a’r celfyddydau ym Mangor a’r fro am bron i ddeugain mlynedd, gan ennill lle yng nghalonnau’r gymuned a thrwy Gymru.

Fel rhan o ddathliadau tymor agoriadol Pontio, bydd cyngerdd arbennig yn cael ei chynnal ar Nos Sadwrn, 30 Ebrill am 7.30pm.

Yng nghwmni mawrion y theatr, artistiaid a ffrindiau, bydd y darlledwr Hywel Gwynfryn yn ail ymweld ag egni a bwrlwm y dyddiau a fu mewn cân, dawns a drama.

Bydd Dyfan Roberts yn darllen ei gerdd a bydd John Pierce Jones, Cefin Roberts a Linda Brown yn rhannu eu hatgofion gyda ni.

Ceir perfformiadau arbennig gan y ddeuawd bytholwyrdd John Ogwen a Maureen Rhys, Iwan Charles a phlant Ysgol Llanllechid ac Alys Williams, wyres sylfaenydd Theatr Gwynedd Wilbert Lloyd Roberts a seren cyfres “The Voice”.

Bydd Ysgol Ddawns a Chelfyddydau Perfformio Gwynedd yn ail-greu dathliad cyffrous o theatr gerdd a dawns gyda’r noson yn cyrraedd ei hanterth mewn perfformiad o gân gomisiwn wedi ei chyfansoddi yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Owain Llwyd a’i pherfformio gan Alys Williams a Chôr Ieuenctid Môn.

Meddai Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Pontio: “Roedd yn bwysig iawn ein bod yn dod o hyd i gyfle i dalu teyrnged i Theatr Gwynedd fel rhan o’n rhaglen agoriadol, ac yn ogystal â’r arddangosfa sydd yma ar Lefel 2 tan ddiwedd Ebrill, rydym yn edrych ymlaen yn arw at y noson hon.”

Ychwanegodd Hywel Gwynfryn, fydd yn llywio’r noson: “Onibai am Wilbert Lloyd Roberts, sylfaenydd Cwmni Theatr Cymru, faswn i ddim  wedi bod yn ddarlledwr.

"Fo oedd yn gyfrifol am roi rhan ‘Glyn bach’  i mi mewn opera sebon ar y radio o Fangor o'r enw Teulu'r Siop pan oeddwn i tua 12oed, a fynta'n gynhyrchydd efo'r BBC.

"Mae'n fraint cael bod yn gyflwynydd noson Gwaddol a rhannu'r llwyfan efo gymaint o dalent.”

Gwaddol – Dathlu Theatr Gwynedd

Nos Sadwrn, 30 Ebrill, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel, Pontio

 

Rhannu |