Mwy o Newyddion
Nifer o lansiadau o lyfrau newydd ym Medwen Lyfrau 2016, Galeri, Caernarfon
Ffydd, gobaith, cariad. Dyma rai o themâu oesol Bedwen Lyfrau 2016 fydd i'w chynnal yn Galeri Caernarfon ar ddydd Sadwrn 23 Ebrill eleni.
Mae'r Ŵyl, sydd yn cynnwys nifer o lansiadau o lyfrau newydd i blant ac oedolion, yn un o brif ddigwyddiadau'r calendr llyfryddol.
Bydd yn cynnwys sesiynau gan rai enwau cyfarwydd iawn, gydag amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau a chyfrolau fydd ar gael i'w prynu am y tro cyntaf.
Ymysg y deunydd ar gyfer oedolion i'w lansio fydd cyfrol deyrnged i'r diweddar Meredydd Evans, ynghyd â chynnyrch newydd gan Myrddin ap Dafydd, Sian Northey a Haf Llewelyn.
Disgwylir trafodaeth fywiog rhwng yr awduron Dyfed Edwards ac Aled Jones Williams a dipyn o fynd mewn sesiwn gan y bardd Elis Dafydd a'r canwr Gwilym Bowen Rhys.
I blant, cynhelir sesiwn o ganu emynau i lansio cyfrol o emynau newydd, ynghyd â chyfieithiadau o waith David Walliams a Roald Dahl. Bydd y cymeriad teledu enwog Ben Dant hefyd yn bresennol ac Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru.
"Nod y Fedwen Lyfrau yw hyrwyddo'r diwydiant llyfrau a hybu gwerthiant llyfrau Cymraeg," meddai Elwyn Williams, Swyddog Gweinyddol Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.
"Mae'n braf nodi fod yr Ŵyl eleni yn cynnwys lansiadau ar gyfer nifer o nofelau newydd, o bob lliw a llun, tra hefyd yn cynrychioli holl rychwant y diwydiant cyhoeddi Cymraeg.
"Mae'r rhaglen eleni yn un llawn iawn ac yn cynnig sesiynau difyr dros ben," meddai.
Yn ôl yr arfer, bydd arlwy'r dydd yn cynnwys y seremoni Gwobr Cyfraniad Oes am gyfraniad arbennig i'r diwydiant llyfrau. Eleni, dyfernir y wobr i'r geriadurwr a'r awdur toreithiog Geraint Lewis.
Cynhelir y Fedwen Lyfrau yn Galeri Caernarfon rhwng 10yb a 5yh ar ddydd Sadwrn 23 Ebrill. Tocynnau ar gael wrth y drws a mynediad am ddim i'r holl ddigwyddiadau.
Bydd y Fedwen yn cynnwys siop lyfrau dan ofal Palas Print.
Mae manylion pellach am y Fedwen ar gael ar y wefan www.bedwen.com neu drwy ddilyn y ffrwd trydar @BedwenLyfrau.