Mwy o Newyddion
Esgob Andy i ymweld â Gwersylloedd Ffoaduriaid yng Nghalais y penwythnos hwn
Mae Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, wedi gadael Cadeirlan Bangor i ddarparu cymorth i'r gwersylloedd ffoaduriaid o gwmpas Calais a Dunkirk yn Ffrainc y penwythnos hwn.
Bydd Esgob Andy yn teithio fel rhan o grŵp o bobl, sy’n dod yn bennaf o Ogledd Cymru ac sy'n dilyn gwahanol Gredoau neu heb ffydd.
Arweinir y grŵp gan Sara Roberts, Darllenydd Lleyg o Ardal Gweinidogaeth Bro Moelwyn, sy'n rhan o Eglwys y Drindod Sanctaidd ym Mhenrhyndeudraeth.
Mae Sara, fydd yn ddechrau hyfforddi tuag at ei hordeinio’n fuan, yn un o sefydlwyr Tudalen Facebook Pobl i Bobl (Cymorth i Ffoaduriaid Gogledd Cymru), pan amlygwyd maint y broblem ffoaduriaid o gwmpas Calais.
Gan edrych ymlaen at y daith, dywedodd Esgob Andy: "Mae'n fraint i fod yn rhan o grŵp o Gristnogion, Mwslemiaid a phobl Fwdhaidd, yn ogystal â'r rheiny sydd heb ffydd, o Ogledd Cymru, a fydd yn cyflwyno cymorth, a mynegi ein cariad ar gyfer ein chwiorydd a brodyr.
"Mae'n ofid imi weld y lluniau o bobl sy'n teimlo nad oes ganddynt unrhyw ddewis ond gadael eu mamwledydd er mwyn ceisio darganfod diogelwch, ystyr a gobaith mewn gwlad arall.
"Bydd yn wylaidd i mi addoli gyda Christnogion o’r gwersylloedd hyn ar Ddydd Sul.
"Beth bynnag yw eu ffydd, mae'r bobl hyn i gyd yn blant Duw, a wnaed yn ei ddelwedd, yn union fel finnau. Rwyf am wneud beth bynnag a allaf i'w cefnogi."
Hwn fydd y trydydd tro i Sara Roberts deithio i'r ardal.
Meddai: "Rydw i'n edrych ymlaen unwaith eto at rannu'r anrhegion, a gasglwyd o Ogledd Cymru, gyda phlant, menywod a dynion sydd eu hangen gymaint.
"Byddwn hefyd yn ymweld â chegin maes gwirfoddol, sy'n helpu i fwydo ffoaduriaid, yn ogystal â chyfarfod gobeithio gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol yn Ffrainc."
Bydd y grŵp yn dychwelyd i Ogledd Cymru Ddydd Llun.
Llun o Esgob Andy a rhan o'r grŵp wrth ymadael.
Ch-Dd - Margaret Ogunbanwo, Gwenlli Haf Evans, Nigel Lemon, Esgob Andy John, Sara Roberts, Parch. Linda Baily, Berni Cavanagh