Mwy o Newyddion
‘Cefnogwch ddatganoli yn y Mesur Plismona' – Liz Saville Roberts wrth ASau Llafur
Mae Liz Saville Roberts AS Plaid Cymru heddiw wedi herio ASau Llafur dros ddatganoli plismona, yn dilyn tro-pedol gan yr Ysgrifennydd Cartref Cysgodol, Andy Burnham.
Wrth ymateb i gwestiwn gan Liz Saville Roberts AS yn siambr y Tŷ Cyffredin rai wythnosau nôl, mynnodd Mr Burnham mai safbwynt Llafur yng Nghymru yn unig oedd cefnogi datganoli plismona, ac nid y blaid yn San Steffan.
Serch hyn, ar ymweliad prin â Chymru yn ddiweddar, dywedodd Mr Burnham fod y Blaid Lafur Brydeinig yn cefnogi trosglwyddo cyfrifoldeb dros blismona o San Steffan i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS fod yn rhaid nawr i’r blaid Lafur ddefnyddio’r Mesur Plismona sy’n pasio drwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd i brofi ei bod o ddifri am ei safbwynt newydd.
Meddai: “Mae Plaid Cymru yn croesawu’r tro pedol diweddar gan y blaid Lafur dros ei safbwynt ar ddatganoli plismona i Gymru.
“Am unwaith mae’n braf gweld Llafur yng Nghymru a San Steffan yn unedig ar y mater o fwy o bwerau i’n Cynulliad Cenedlaethol.
“Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson o blaid datganoli plismona i’r Cynulliad Cenedlaethol, gan ddadlau y byddai diogelwch ein cymunedau ac atal trosedd yn cael eu gweinyddu’n well pe bai’r penderfyniadau’n cael eu gwneud yn agosach at y bobl maent yn eu heffeithio.
“Cefnogir y farn hon gan y Comisiwn Silk traws-bleidiol ar ddatganoli pellach i Gymru.
“Yn hanesyddol mae’r blaid Lafur wedi dioddef rhaniadau dwfn dros y mater, gyda nifer o ASau Llafur o Gymru yn fodlon gweld y pwerau hyn yn aros yn nwylo’r Toriaid yn San Steffan.
“Yn sgil y tro pedol hwn, rhaid nawr i’r blaid Lafur gynnig gweithredoedd, nid dim ond geiriau gwag.
"Y Mesur Plismona sy’n pasio drwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd yw’r cyfle delfrydol i osod gwelliannau a fyddai’n sicrhau fod y pwerau hyn yn cael eu trosglwyddo o Lundain i Gymru.
“Bydd Plaid Cymru yn gosod ei gwelliannau ei hun i sicrhau fod datganoli ar yr agenda pan y trafodir y Mesur.
"Os yw’r Ysgrifennydd Cartref Cysgodol am gadw at ei air yna bydd yn llwyddo i uno ei blaid i gefnogi’r newid hwn.
“Os bydd Llafur yn methu, yna bydd eu rhethreg diystyr pan ddaw’n fater o rymuso ein cenedl yn cael ei amlygu unwaith eto. Amser a ddengys.”