Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Ebrill 2016

Awduron Cymraeg lond y lle ym mhennod nesaf Gŵyl Llên Plant Caerdydd

BYDD mwy o sesiynau Cymraeg nag erioed ym mhedwaredd Ŵyl Llên Plant Caerdydd. 
Bydd y digwyddiad poblogaidd i’r teulu yn dychwelyd i’r brifddinas o 16-24 Ebrill gyda thros 50 o ddigwyddiadau cyffrous yn Gymraeg a Saesneg gydag awduron a darlunwyr lleol a chenedlaethol, gan gynnwys y ffefryn cyson, Jacqueline Wilson.   

Nod yr ŵyl yw creu darllenwyr am oes, ac mae gan y rhaglen Gymraeg gyffrous ddigon i’w chynnig i blant Cymraeg eu hiaith ac oedolion sy’n dysgu hefyd. Bydd ymwelwyr rheolaidd â’r ŵyl ffyniannus hon yn cwrdd â rhai o ffefrynnau cyson yr ŵyl, yn ogystal â chlywed gan dalent newydd fel y gyflwynwraig teledu Mari Lovgreen, sydd hefyd yn awdures erbyn hyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol, Cwmnïau Cydweithredol a Mentrau Cymdeithasol, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Eleni bydd Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn cyflwyno nifer o sesiynau Cymraeg yn cynnwys rhai o’r awduron mwyaf cyffrous a thalentau newydd yma yng Nghymru.

“Fel Cyngor rydym yn hynod falch o fod yn cynnig y rhaglen Gymraeg fwyaf a mwyaf amrywiol eto a anelir at blant ac oedolion, siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.

“Rydym wedi ymrwymo i weld y Gymraeg yn ffynnu a pha ffordd well sydd i gefnogi ein gweledigaeth o greu Caerdydd Ddwyieithog na thrwy ddathlu llenyddiaeth Gymraeg yn ein Prifddinas?

“Mae’r mis hwn hefyd yn nodi agoriad Yr Hen Lyfrgell, canolfan Gymraeg gyntaf Caerdydd a fydd yn rhoi llwyfan i iaith a diwylliant Cymru ond hefyd yn creu amgylchedd modern, hamddenol a bywiog i bobl o bob oedran ddysgu a chlywed yr iaith, wrth gymdeithasu a mynegi eu hunain yn y Gymraeg.”

Bydd yr arlwy enfawr ac amrywiol hwn yn cynnwys Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, ac awdur mwyaf llwyddiannus Cymru, Gareth F Williams, sydd wedi ennill gwobr fawreddog Tir na n-Og am lên plant chwe gwaith yn ogystal ag ennill Gwobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn am ei nofel Awst yn Anogia y llynedd.

Bydd yr ŵyl yn dathlu ei gyflawniadau gyda sesiwn gyfweld, a gynhelir gan y Dr Siwan Rosser o Brifysgol Caerdydd, yn adeilad eiconig Yr Hen Lyfrgell yng Nghanol y Ddinas ar ddydd Mercher 20 Ebrill.

Bydd yn ei holi am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’w lyfrau plant i geisio ennyn ganddo gyfrinach 20 mlynedd o lwyddiant. 

Bydd y sesiwn yn apelio at ddarllenwyr brwd dros 12 oed, ac awduron a chyw awduron sy’n oedolion. 

Ymhlith enillwyr blaenorol Tir na n-Og a fydd yng ngŵyl eleni mae Manon Steffan Ros, Caryl Lewis a’r awdur plant profiadol Bethan Gwanas. Ei llyfr newydd, Coeden Cadi, yw’r tro cyntaf iddi ysgrifennu i grŵp oedran iau 5-8 oed.  

Eleni yw canmlwyddiant geni Roald Dahl, ac er mwyn dathlu’r awdur chwedlonol, bydd nifer o’r sesiynau adrodd straeon a’r sesiynau crefft yn cynnwys rhai gwesteion arbennig iawn.

Bydd un o’n cymeriadau enwocaf, Dewi Pws, yn cynnal taith gerdded ddwyieithog o amgylch y ddinas ddydd Sul 24 Ebrill ar ddiwrnod olaf yr ŵyl ar thema Roald Dahl a’i gymeriadau lliwgar.

Mae’r ŵyl yn apelio at bobl ifanc sy’n gwerthfawrogi hud llyfrau, ac i oedolion sydd am eu hysgrifennu. 

Mae’r digwyddiad wedi bod yn tyfu ers blynyddoedd a bydd nawr yn cael ei gynnal dros ddau benwythnos gyda sesiynau ysgol am ddim yn cael eu cefnogi gan John Lewis yn ystod yr wythnos. 

Mae tocynnau bellach ar werth drwy Ticketline UK. Ffoniwch 02920 230 130 neu ewch i www.ticketlineuk.com.

I gael manylion llawn am y rhaglen digwyddiadau ewch i www.cardiff-events.com

Llun: Anni Llŷn

Rhannu |