Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Ebrill 2016

Mae ceffylau gwedd hynaf Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar garlam ar gyfer taith ymddeoliad yng Ngogledd Cymru

Dydd Llun, dechreuodd y ceffylau gwedd Jerry a Claire eu taith gyntaf o amgylch safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gydag ymweliad i Dŷ a Gerddi Castell Penrhyn a Phlas Newydd.

Mae’r pâr hoffus wedi bod yn Erddig yn Wrecsam am bron i 10 mlynedd ond nid ydynt erioed wedi gadael yr Ystâd, gan gyfarch ymwelwyr yng Nghastell Penrhyn a Phlas Newydd er mwyn helpu i godi arian iddynt gael ymddeol a bydd dau geffyl gwedd newydd yn cymryd eu cyfrifoldeb.

Dywedodd Richard Neale, llefarydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghastell Penrhyn: “Mae hi wedi bod yn wych cael Jerry a Claire yma i groesawu ein hymwelwyr heddiw.

"Roeddynt yn edrych yn gartrefol iawn gyda’u carnau newydd a’u myngau wedi’u plethu.

"Mae ganddynt natur mor gyfeillgar ac roedd teuluoedd wrth eu bodd yn cwrdd â nhw. Gobeithio bydd eu taith yn codi llawer o arian gan mai’r orchest hon yw’r gwaith caled olaf a wnânt cyn ymddeol.”

Bydd gan ymwelwyr gyfle am yr eildro i gwrdd â’r cewri caredig ddydd Sadwrn, 9 Ebrill wrth iddynt barhau ar eu taith yng Nghastell y Waun a Chastell a Gerddi Powis.

Dywedodd Justin Albert, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Gydag 14 o funudau’n unig rhwng dau o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rydym yn gobeithio bydd taith Jerry a Claire yn annog teuluoedd i drefnu cyfres o ymweliadau cyntaf a dangos pa mor hawdd ydyw mewn gwirionedd i wneud diwrnod ohoni yn ein safleoedd arbennig dros y gwanwyn.”

Mae’r daith ymddeol yn rhan o arlwy gyffrous o weithgareddau ym mannau arbennig Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru'r gwanwyn hwn.

Yn ogystal â chyfarfod Jerry a Claire ar eu gwyliau, gall ymwelwyr ddilyn eu camau carn i geisio canfod hyd yn oed rhagor o anifeiliaid gyda Chanllaw Gwyllt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ffeil ffeithiol am fywyd gwyllt y gellir ei lawrlwytho.

O weld gwiwerod coch yn bwydo ym Mhlas Newydd i fwynhau arddangosfa peunod yng Nghastell Powis, mae’r Canllaw Gwyllt yn cynnwys popeth mae ymwelwyr eu hangen i fynd yn wyllt a mwynhau #NTFirst y gwanwyn hwn.

  • RHOWCH RODD i geffylau Erddig drwy anfon neges destun â’r gair GWEDD at  70123 i gyfrannu £3* neu rhowch gyfraniad y tro nesaf byddwch yn ymweld â’r stablau. Rhagor o wybodaeth: http://www.nationaltrust.org.uk/erddig/features/help-our-hard-working-shire-horses
  • Mae Jerry, 19 (66 oed ym mlynyddoedd dynol) wedi bod yn Erddig ers 2006. Mae wedi ymddeol ond yn ei ddyddiau gweithio byddai’n tynnu boncyffion ac yn cynnal teithiau mewn trol o amgylch yr ystâd. Mae’n casau gwybed ac nid yw’n hoffi pryfaid gymaint â hynny ychwaith. Nid yw’n swil i gyhoeddusrwydd, mae wedi gwneud ymddangosiad sawl tro mewn gwyliau a sioeau gwedd.

  • Ymunodd Claire, 15 (56 oed ym mlynyddoedd dynol) â Jerry yn Erddig yn 2008. Mae’n geffyl Gwedd o waed cyfan gyda’i phasbort ei hunan. Rhoddodd enedigaeth dair gwaith ac mae’n hen fam-gu. Yn dawel a dof, mae plant wrth eu bodd â hi. Mae Claire yn gweithio ar yr ystâd yn hebrwng teithiau ar drol. 

Rhannu |