Mwy o Newyddion
Mudiadau ieuenctid Cymru'n uno i fynnu bod pleidiau'n ‘rhoi llais i bobl ifanc’
Yr wythnos hon, bydd ymgyrchwyr yn lansio chwech ‘addewid ieuenctid’ y maent am i bleidiau gwleidyddol yng Nghymru eu cefnogi, cyn etholiad Cynulliad Cymru mewn pedair wythnos yn unig.
‘Addewid Ieuenctid: Ennyn Diddordeb Pobl Ifanc mewn Democratiaeth’ yw galwad ERS Cymru i bleidiau gwleidyddol Cymru weithredu wrth i ni nesáu at 5 Mai.
Mae Electoral Reform Society Cymru yn galw am y pleidiau i gefnogi chwe newid hollbwysig y gall ACau eu gwneud yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Cefnogir y galwadau hyn gan ystod o fudiadau ieuenctid gan gynnwys Youth Cymru ac UCM Cymru, y ddau brif fudiad ieuenctid yng Nghymru, yn ogystal â Llais Ifanc, Panel Arweinyddiaeth Ifanc Youth Cymru.
Mae'r chwe galwad yn gofyn i bleidiau ymrwymo i'r canlynol:
- Cynulliad Ieuenctid Cenedlaethol annibynnol i Gymru
- Ymestyn y bleidlais i bobl 16 ac 17 oed mewn etholiadau lleol ac etholiadau'r Cynulliad
- Creu Meiri Ieuenctid a Chynghorau Ieuenctid statudol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru
- Gosod rolau a chyfrifoldebau cynghorau ysgol ar sail statudol
- Gorfodi awdurdodau lleol a chyrff addysgol i gydweithio ar ymdrechion i gofrestru pleidleiswyr
- Rhoi argymhellion Adolygiad Donaldson am well Addysg Dinasyddiaeth ar waith
Bydd ERS Cymru'n ysgrifennu at arweinwyr y chwe phrif blaid yr wythnos hon i ofyn iddynt gefnogi'r argymhellion.
Meddai Steve Brooks, Cyfarwyddwr ERS Cymru: “Mae Cymru'n wynebu risg hir-dymor o ran y nifer sy'n troi allan i bleidleisio os yw pobl ifanc yn parhau i gael eu hallgau o wleidyddiaeth ffurfiol. Dim ond 43% o bobl 18-24 oed bleidleisiodd yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf: mae'r bwlch rhwng diddordeb pobl ifanc a hen bobl mewn gwleidyddiaeth yn tyfu, ac ni all ond gwaethygu os na fydd yna weithredu brys.
“Gallai'r chwe pholisi yma, pe caent eu gweithredu, wneud gwahaniaeth mawr yng nghyfranogiad ieuenctid mewn gwleidyddiaeth yma yng Nghymru. Mae yna gymaint sydd angen ei wneud, ond byddai'r camau hyn yn ffordd wych o ddechrau tymor nesaf y Cynulliad, gan anfon neges gref at bobl ifanc bod eu lleisiau'n bwysig a chânt eu clywed.
“Mae Cymru wedi bod angen Cynulliad Ieuenctid ers amser maith fel gwledydd eraill y DU, a byddai creu meiri ieuenctid yn mynd gryn lawer o'r ffordd o ran gwella gwelededd pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth yma.
“Yn fuan, bydd gan y Cynulliad rym i roi'r bleidlais i bobl 16 ac 17 oed – rhywbeth a wnaeth yr Alban llynedd yn dilyn lefel anhygoel o gyfranogiad gan bobl ifanc yn refferendwm yr Alban. Ynghyd ag addysg dinasyddiaeth go iawn, byddai cael pleidlais yn 16 yn rhoi hwb enfawr i rym pobl ifanc dros eu bywyd a'u dyfodol eu hunain.
“Byddai cryfhau cynghorau ysgol yn mynd ymhell o ran rhoi profiad i fyfyrwyr ledled y wlad o sut mae gwleidyddiaeth yn gweithredu ar lefel leol iawn. Ac mae angen cael ymdrech traws-fudiadol i annog pobl ifanc i fod ar y gofrestr etholiadol yma yng Nghymru – felly bydd llawer heb lais oni cheir gweithredu brys. Yn olaf, mae angen i bleidiau ymrwymo'n llawn i roi argymhellion Adolygiad Donaldson ar waith er mwyn rhoi'r addysg dinasyddiaeth maent yn ei haeddu i bobl ifanc yng Nghymru.
“Gyda'i gilydd, mae'r polisïau hyn yn ffordd o greu chwyldro yng ngwleidyddiaeth ieuenctid yma yng Nghymru, ac rydyn ni'n gobeithio bod pleidiau'n cefnogi ein galwadau.”
Meddai Ebbi Ferguson, Dirprwy Lywydd UCM Cymru: “Mae UCM Cymru wedi bod yn ymgyrchu dros well cynrychiolaeth o bobl ifanc drwy strwythurau gwleidyddol. Mae'n annerbyniol dweud nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth pan does dim ffyrdd ganddyn nhw o gyfranogi.
"Rydym yn croesawu'r gofynion hyn a fyddai'n arwain at addysg i bobl ifanc ynglŷn â rôl gwleidyddiaeth yn eu bywyd ond, yr un mor bwysig, rhoi cyfleoedd iddynt i gymryd rhan. Mae angen moderneiddio ar wleidyddiaeth os ydyn ni am fynd i'r afael â'r broblem o ddiffyg diddordeb sy'n bodoli.”
Meddai Christian Webb, Cadeirydd Llais Ifanc, Panel Arweinyddiaeth Ieuenctid Youth Cymru: “Rydym yn cefnogi'r galwadau hyn oherwydd mae pob person ifanc yng Nghymru'n haeddu cyfle i roi eu barn ar y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw. Hefyd, maen nhw'n haeddu cael gwybod gan y system addysg sut mae'r broses benderfynu'n gweithio a sut mae modd iddynt gyfranogi.”