Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Ebrill 2016

Mike Peters i serennu yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd

Bydd y seren roc Mike Peters yn perfformio yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint. Mae Mike ar daith yn yr UDA ar hyn o bryd ond bydd yn dychwelyd i Gymru mewn pryd ar gyfer y cyngerdd.

Bydd llu o sêr eraill o’r ardal hefyd yn perfformio yn y cyngerdd, gan gynnwys seren Broadway Mark Evans, y ddeuawd glasurol Richard ac Adam, a’r gomediwraig Caryl Parry Jones.

Bydd yr ŵyl gelfyddydol yn cael ei chynnal 30 Mai – 4 Mehefin ar dir ger Ysgol Uwchradd Fflint, gyda’r cyngerdd agoriadol ar y nos Sul gyntaf yn y pafiliwn.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r artistiaid rannu llwyfan ac yn ymuno gyda hwy bydd Côr Hŷn ac Iau Cytgan Clwyd, Côr Ysgol Maes Garmon, Band Jazz Castell Alun a phlant a phobl ifanc yr ardal sydd yn sioeau cerdd yr Eisteddfod.

Yn ôl Mike Peters, prif leisydd The Alarm: “Rwy’n hapus iawn o fod yn perfformio yng Nghyngerdd Agoriadol Eisteddfod yr Urdd.

“Rwyf ar daith yn UDA ar hyn o bryd ac yn dychwelyd i Brydain ddiwedd y mis i fynd ar daith yno.

"Alla i ddim meddwl am ffordd well o orffen y daith na dychwelyd i Gymru i berfformio gyda Chôr talentog Cytgan ar brif lwyfan Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint.

"Yr eisin ar y gacen yw y bydd fy nau fab, Dylan ac Evan, yno hefyd.  Mae’r ddau wrth eu bodd yn canu, chwarae’r gitâr a’r piano a bydd Dylan yn cystadlu yn yr Eisteddfod gydag Ysgol Glan Clwyd, felly bydd yn ddigwyddiad teuluol go iawn!”

Roedd albwm glasurol ddiweddaraf Richard and Adam yn rhif un yn y siart glasurol am dair wythnos, a bydd Mark Evans yn hedfan adref o New York yn arbennig ar gyfer y cyngerdd.

Bydd Caryl Parry Jones yn dod â rhai o gymeriadau ‘Caryl a’r Lleill’ i’r cyngerdd yn ogystal â chymeriad newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2016 – Fflint Eastwood.

Dywedodd Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: “Rydym wedi llwyddo i gael artistiaid byd enwog i berfformio eleni a bydd hwn yn siŵr o fod yn gyngerdd gwerth ei weld. 

"Mi fydd sêr sydd wedi gwneud eu marc yn rhyngwladol yn rhannu llwyfan gyda sêr y dyfodol a bydd yn brofiad amhrisiadwy iddynt.  Rydym yn falch o gydweithio gydag S4C er mwyn llwyfannu y noson wefreiddiol hon.   

“Yn ogystal â’r cyngerdd agoriadol, mi fydd plant a phobl ifanc yr ardal yn perfformio mewn dwy sioe gerdd yn ystod wythnos yr Eisteddfod – y criw cynradd nos Fawrth yn y pafiliwn gyda sioe ‘Fflamau Fflint’ a’r criw uwchradd yn perfformio fersiwn Gymraeg o’r sioe gerdd ‘Hairspray’ ar y nos Sadwrn gyntaf a’r nos Lun yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn.”

Mae tocynnau ar gyfer y cyngerdd agoriadol a’r sioeau ar gael nawr o wefan yr Eisteddfod, am bris rhatach cyn y 29 o Ebrill. Gellir prynu tocynnau o wefan urdd.cymru/eisteddfod neu trwy ffonio 0845 257 1639.  Bydd y cyngerdd yn cael ei ffilmio gan Gwmni Cynhyrchu Avanti ac i’w weld yn fyw ar S4C.

Rhannu |