Mwy o Newyddion
Diwrnod agored yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell Prifysgol Bangor
Bydd Casgliadau Hanes Natur Prifysgol Bangor ar agor i’r cyhoedd ar ddydd Sadwrn, 16 Ebrill rhwng 11am a 3pm gyda chyfle i weld a gafael mewn anifeiliaid byw.
Bydd cyfle i gael gweld Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, sydd ddim ar agor i’r cyhoedd yn arferol, er mwyn dysgu mwy am yr anifeiliaid a’r planhigion sydd i’w gweld yno. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau , a bydd hefyd cornel weithgareddau i blant o bob oedran.
Mae’r digwyddiad yma wedi ei drefnu ar y cyd gyda Chymdeithas Ymlusgolegol y Brifysgol a bydd cyfle i weld a gafael mewn nadroedd ac anifeiliaid byw eraill ar y dydd.
Fel rhan o gynllun ar y cyd gyda Chyngor Gwynedd sydd wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Treftadaeth Loteri ,‘Ymgysylltu â Chasgliadau: Ehangu Mynediad at Dreftadaeth Gwynedd’, bwriedir gwella mynediad i gasgliadau amgueddfeydd cudd y Brifysgol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl leol ac ymwelwyr i fwynhau a dysgu o’r creiriau sydd yn cael eu harddangos.
Dywedodd Dr Rosanna Robinson, Curadur yr Amgueddfa: “Rydym yn bwriadu agor Amgueddfa Brambell yn fwy aml er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd weld beth sydd yno.
"Mae hyn yn adeiladu ar lwyddiant Gŵyl Wyddoniaeth y Brifysgol sydd wedi bod yn boblogaidd ac mae’r nifer sy’n mynychu’r Amgueddfa ar y dyddiau yma yn dda.”
Lleolir Adeilad Brambell Prifysgol Bangor dros y ffordd i archfarchnad ASDA ac mae cyfeiradau ar gael ar y wefan http://www.bangor.ac.uk/tour/MapLleoliad.pdf