Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Ebrill 2016

Cyhoeddi ysgoloriaethau i awduron: o nofelau arloesol i Gododdin y bêl gron

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi datgan enwau’r ugain o awduron a fydd yn derbyn Ysgoloriaeth i Awduron 2016/17. Mae’r Ysgoloriaethau, gwerth cyfanswm o £70,000, yn galluogi’r awduron i ganolbwyntio ar ysgrifennu creadigol penodol, neu’n galluogi ymchwil a theithio sy’n gysylltiedig â’r gwaith ar y gweill.

Yn ogystal â chefnogi nifer o awduron cyhoeddedig, fe ddyfarnwyd hefyd Ysgoloriaethau i nifer o awduron newydd. Mae pedwar ar ddeg o awduron eleni yn derbyn Ysgoloriaeth am y tro cyntaf, gyda deg ohonynt heb gyhoeddi cyfrol o’u gwaith hyd yn hyn.

Mae datblygu gwaith arloesol yn nodwedd amlwg yng ngwaith awduron 2016. A ninnau yng nghanol dathliadau Roald Dahl 100, mae’n amserol iawn bod ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifainc yn ffynnu yng Nghymru.

Mae Geraint Morgan yn wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr S4C gan iddo ennill ei fywoliaeth fel actor dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn caniatáu iddo dorri tir newydd gan roi cynnig ar gwblhau nofel Saesneg ar gyfer oedolion ifanc.

Bydd Sian Northey hefyd yn mentro i dir newydd, ac yn canolbwyntio ar ysgrifennu nofel ar ffurf cyfres o gerddi, ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau cynnar.

Bydd Ysgoloriaeth i Awduron yn caniatáu i’r Prifardd a’r trydarwr cynganeddol Llion Jones gyfuno rhai o’i brif ddiddordebau, sef barddoniaeth a phêl droed. Bydd yn dilyn hynt a helynt tîm Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016 - fel rhyw fath o Gododdin y bêl gron.

Bydd Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig yn caniatáu i’r Prifardd Christine James gymryd amser i ffwrdd o’i gwaith er mwyn canolbwyntio ar greu gwaith creadigol estynedig newydd, gyda’r bwriad o gwblhau ail gasgliad o gerddi.

Edrychwn ymlaen at wledd o ffuglen newydd gan ddau awdur profiadol. Bydd Aled Jones Williams yn ysgrifennu nofel newydd, yn dwyn y teitl Nostos. Nofel am daith y dychwel a’r dychweledig. Bwriad Martin Davis yw canolbwyntio ar gwblhau nofel gyfoes newydd wedi’i lleoli yn Amwythig a’r cyffiniau, sy’n ymdrîn â themâu megis colled a hiraeth, a phrofi gobaith a hapusrwydd o’r newydd.

Ymhlith yr awduron sydd wedi derbyn Ysgoloriaethau ar gyfer eu gwaith Saesneg mae: Rebecca F. John, Natalie Holborow, Megan Hodson, Jonathan Edwards, a Tom Bullough.

Er 2004, mae Llenyddiaeth Cymru wedi dyfarnu dros £1 miliwn ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron, gan alluogi 292 o awduron i ddatblygu eu gwaith mewn ystod o genres.

Dros y ddegawd ddiwethaf, cafodd ffuglen, barddoniaeth, llenyddiaeth plant, llenyddiaeth i’r arddegau a gwaith ffeithiol greadigol eu cynnwys ymhlith yr Ysgoloriaethau llwyddiannus, ac yn 2011 gwobrwywyd nofelau graffeg am y tro cyntaf.

Dengys llwyddiannau nodedig Ysgoloriaethau’r gorffennol bod y cynllun Ysgoloriaethau i Awduron yn dwyn ffrwyth. Daeth hyn i’r amlwg yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2015, wrth i gyfrolau gan bump awdur a dderbyniodd Ysgoloriaethau i Awduron gyrraedd y Rhestr Fer: Saith Oes Efa (Y Lolfa) gan Lleucu Roberts, ac Un Stribedyn Bach (Gwasg Carreg Gwalch) gan Rhys Iorwerth yn y Gymraeg, a’r cyfrolau Saesneg My Family and Other Superheroes (Seren) gan Jonathan Edwards; So Many Moving Parts (Bloodaxe) gan Tiffany Atkinson; a The Dig (Granta) gan Cynan Jones. Enillodd Saith Oes Efa gan Lleucu Roberts (Y Lolfa) Y Fedal Ryddiaith yn 2014 am ei chasgliad o straeon yn ogystal â Gwobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2015.

Dywedodd Katie Gramich, Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru: “Mae meithrin talent lenyddol wrth wraidd cenhadaeth Llenyddiaeth Cymru ac mae’n fraint i mi fel arbenigwr yn llenyddiaeth Cymru fod wedi derbyn cais i helpu yn y dasg arbennig o werthfawr hon drwy gadeirio’r Panel Ysgoloriaethau.

“Yn fwy calonogol, roedd y safon lenyddol eleni yn arbennig o uchel. Wrth gwrs, gwnaeth hyn dasg y Panel yn fwy anodd ac yn fwy rhwystredig mewn rhai ffyrdd, ond golyga hefyd y cawsom y fraint o fod y rhai cyntaf i ddarllen gweithiau newydd syfrdanol o dda, gweithiau y gwyddom yr ânt yn eu blaenau i ennill cydnabyddiaeth feirniadol a llwyddiant masnachol. Roedd ansawdd rhagorol gweithiau ffuglen i blant ac i oedolion ifanc eleni yn arbennig o drawiadol, a chyffrous.”

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen at wledd o ysgrifennu newydd o Gymru, gan leisiau newydd yn ogystal ag awduron sydd wedi ennill eu plwyf. Mae Ysgoloriaethau i Awduron yn cynnig cymorth i awduron trwy ganiatáu amser a chyfle iddynt ddatblygu eu hysgrifennu ymhellach, ar bob cam o’u gyrfa.”

Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweinyddu’r Ysgoloriaethau i Awduron ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru. Noddir Ysgoloriaethau i Awduron gan y Loteri Genedlaethol, trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

I ddarllen mwy am Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru, a’r dulliau eraill gall y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth gefnogi awduron ar bob cam o’u gyrfa, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org
 

Rhestr cyflawn - Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru 2016 Nodir y math o Ysgoloriaeth, iaith y gwaith ar y gweill a’r swm a ddyfarnwyd.

  • Rebecca F. John, Abertawe. Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig, Saesneg, £3,000
  • Aled Jones Williams, Cricieth. Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig, Cymraeg, £5,000
  • Tom Bullough, Aberhonddu. Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig, Saesneg, £4,000
  • Jonathan Edwards, Cross Keys. Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig, Saesneg, £3,000
  • Nina Lyon, Aberhonddu. Ysgoloriaeth Awdur Newydd, Saesneg, £2,000
  • Sarah Coles, Abertawe. Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig, Saesneg, £3,000
  • Hilary Watson, Caerdydd. Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig, Saesneg, £4,000
  • Megan Hodson, Caerdydd. Ysgoloriaeth Awdur Newydd, Saesneg, £5,000
  • Peter Wakelin, Aberystwyth. Ysgoloriaeth Awdur Newydd, Saesneg, £3,000
  • Martin Davis, Machynlleth. Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig, Cymraeg, £3,000
  • Hannah Collins, Caerffili. Ysgoloriaeth Awdur Plant / Pobl Ifainc (Newydd), Saesneg, £2,000
  • Geraint Morgan, Caerdydd. Ysgoloriaeth Awdur Plant / Pobl Ifainc (Newydd), Saesneg, £4,000
  • Natalie Ann Holborow, Sgiwen. Ysgoloriaeth Awdur Newydd, Saesneg, £4,000
  • Sian Northey, Penrhyndeudraeth. Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig, Cymraeg, £3,000
  • Tegan Pyke, Caerdydd. Ysgoloriaeth Awdur Plant / Pobl Ifainc (Newydd), Saesneg, £5,000
  • Christine James, Caerdydd. Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig, Cymraeg, £4,000
  • Lucy Dunham, Caerdydd. Ysgoloriaeth Awdur Plant / Pobl Ifainc (Newydd), Saesneg, £4,000
  • Benjamin Smith, Llanidloes. Ysgoloriaeth Awdur Newydd, Saesneg, £3,000
  • Llion Jones, Bangor. Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig, Cymraeg, £2,000
  • Helen Pendry, Machynlleth. Ysgoloriaeth Awdur Newydd, Saesneg, £4,000.
Rhannu |