Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn cynllunio i dorri marwolaethau ataliadwy – gan achub 10,000 o fywydau
Mae Plaid Cymru yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Iechyd heddiw drwy hyrwyddo ei haddewid maniffesto i dorri marwolaethau ataliadwy, megis o ysmygu, alcohol a gordewdra, o 25%, gan achub miloedd o fywydau.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Elin Jones: “Mae gormod o bobl yn marw cyn eu hamser yng Nghymru a rhaid gwneud llawer mwy i leihau’r nifer o farwolaethau ataliadwy.
“Yr wythnos hon, cyhoeddodd Plaid Cymru ei rhaglen lywodraeth uchelgeisiol yn cynnwys ymrwymiad i dorri’r nifer o farwolaethau ataliadwy o 25% erbyn 2026, gan arbed 10,000 o fywydau.
“Mae gordewdra yn her iechyd cyhoeddus sylweddol sy’n ein wynebu. Byddai ein treth pop, sydd wedi denu cefnogaeth arbenigwyr meddygol, yn taclo’r mater hwn.
"Bydd lleihau’r nifer o bobl sydd ddim yn iach yn achub bywydau ac hefyd yn arbed arian i’r Gwasanaeth Iechyd.
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn edrych ar ymestyn mesurau i leihau ysmygu. Gall hyn gynnwys codi’r oed prynu sigarennau o 18 i 21 ac ymestyn ardaloedd ble fo’r gwaharddiad ar waith i lefydd mae’r cyhoedd yn mynd megis parciau a thraethau.
“Fel rhan o ymdrechion i dorri marwolaethau cyn eu hamser a lleihau camddefnydd o alcohol, mae Plaid Cymru’n rhoi cefnogaeth gref i gyflwyno isafswm pris alcohol.
“Yn 2013 roedd adroddiadau’n nodi fod 7,601 o bobl yng Nghymru wedi marw o ganlyniad i farwolaethau ataliadwy. Os fydd cynlluniau Plaid Cymru yn llwyddo, gellir achub dros 2,000 o fywydau'r flwyddyn.
“Er gwaethaf cynnydd technoleg feddygol mae cyfradd y cwymp mewn marwolaethau ataliadwy yn arafach yng Nghymru nag yn Lloegr. Golyga hyn fod yn rhaid i ni weithredu’n gadarnach i leihau marwolaethau ataliadwy, gan gynnwys gosod targedau uchelgeisiol.”