Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Ebrill 2016

Braw iechyd bachgen yn ei arddegau yn arwain at waith celf newydd yn ward y plant, diolch i gyfraniad côr

Mae mam o Fôn wedi helpu i drawsnewid ward ysbyty lle cafodd ei mab awtistaidd, oedd ar fin marw, driniaeth wedi iddo wrthod bwyta ac yfed.

Dim ond ychydig dros bum stôn oedd Dylan Williams, sy'n ei arddegau, pan gafodd ei dderbyn i ward y plant yn Ysbyty Gwynedd. Roedd o wedi ymgwympo ac roedd ei organau'n cau i lawr, oherwydd ei fod yn gwrthod bwyd a dŵr, meddai ei fam, Iris.

Roedd hi mor ddiolchgar i feddygon a nyrsys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a wnaeth ei drin, aeth ati i helpu trefnu cyngerdd i godi arian gyda Chôr Lleisiau Llannerch, ac elw'r cyngerdd yn mynd at ward y plant.

Mae'r cyfraniad o £1,000 i elusen y GIG yng Ngogledd Cymru, Awyr Las, nawr wedi talu am furlun anferth, ar thema môr-ladron, wrth fynedfa'r ward.

 Ac i nodi cefnogaeth y côr, mae'r artist masnachol, Gary Drew o Fae Cinmel, wedi cynnwys môr-ladron sy'n canu yn ei gread.

Esboniodd Iris, a ymunodd â'r côr 13 mlynedd yn ôl a bellach yn ysgrifennydd y côr: "Nid oes gennym unrhyw syniad pam wnaeth Dylan wrthod bwyd, gan ei fod yn ddi-eiriau: nid yw'n siarad nac yn cyfathrebu, ond rydym yn gwybod ei fod yn deall popeth. Mi wnaeth o benderfynu nad oedd bellach am fwyta ac yfed, a dw i ddim yn meddwl y cawn wybod pam byth.

 "Cafodd ei drin ym Mangor ac yna'i drosglwyddo i Ysbyty Plant Alder Hey, lle gwnaethant osod pibell i'w stumog er mwyn gallu ei fwydo. 

"Bellach mae ei iechyd yn ôl fel ag yr oedd, ac ni fyddech yn gallu meddwl iddo fod mor denau - mae'n 5 troedfedd 6 modfedd ac wedi codi yn ôl i'w bwysau blaenorol, sef naw stôn," meddai Iris.

Mae gan y Nain hon fab 32 oed a merch 29 oed hefyd ac mae'n gofalu am Dylan gyda'i gŵr Ifan yn eu cartref yn Llanerchymedd.

"Cafodd Dylan ddiagnosis o awtistiaeth ddifrifol pan oedd yn dair oed, a threuliodd llawer o amser ar y ward oherwydd gwahanol gymhlethdodau.  Bellach mae'n 18 oed, felly bydd yn symud i ward oedolion - roeddwn am wneud rhywbeth i'r ward, oherwydd mae'r staff wedi bod mor dda i mi.  Mae canu yn rhan fawr o fywyd Dylan hefyd, ac mae wrth ei fodd yn ymuno - yn ei ffordd ei hunan.

"Penderfynwyd cynnal cyngerdd a gwahoddwyd côr arall o Dde Cymru i ymuno â ni. Bu'n llwyddiant mawr a chodwyd dros £1000 er budd y ward. Rydym yn falch iawn ein bod wedi penderfynu defnyddio'r arian i lonni'r fynedfa gyda'r murlun hwn.

“Rwyf eisoes wedi codi £1,550 i’r ward gyda chyngerdd  Cawl a Chân, a dalodd am lechi ac iPad i gadw’r plant yn ddiddig wrth iddynt gael profion gwaed a thriniaethau eraill” ychwanegodd Iris.

Daeth Nerys Pritchard, Prif Nyrs Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd i fyny â'r syniad am furlun ar ôl gweld gwaith arall Gary yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, lle bu'n gweithio'n flaenorol.

Meddai: "Roeddem am loni'r fynedfa a rhannau eraill o'r ward i'w gwneud yn fwy croesawus i blant - dyma'r peth cyntaf maen nhw'n eu gweld. Mae gwaith Gary yn llachar iawn ac roeddwn yn gwybod y byddai'n gweithio'n dda yma.

"Fodd bynnag, gan nad oedd modd iddo gael ei ariannu drwy gyllideb y GIG, daeth Awyr Las i'r adwy.

"Rydym yn ddiolchgar iawn am gyfraniadau, megis yr un a gafwyd gan Gôr Lleisiau Llannerch, oherwydd maen nhw'n ariannu ystod o bethau ychwanegol sy'n mynd y tu draw i'r hyn gall y GIG ei ddarparu."

Penderfynodd Gary ar thema môr ladron ar gyfer y fynedfa oherwydd ei fod yn lliwgar a bywiog.

Mae'n fan sy'n edrych yn oeraidd a gall y lliwiau llachar helpu i'w gynhesu. Hefyd, mae'n rhywbeth sy'n cynnwys bechgyn a genethod - ac oherwydd bod yr arian wedi dod gan gôr, rwyf wedi cynnwys môr ladron sy'n canu, ond bydd raid i chi chwilio amdanynt!

"Byddaf yn tynnu bob llun yn llaw-rydd a byddaf wedyn yn defnyddio paent emylsiwn i'w llenwi a phaent a chwistrellir ar gyfer y cysgodion," esboniodd Gary.

"Rwy'n gweithio led led y byd yn creu murluniau mawr - rwyf wedi cwblhau un yn Ne Iwerddon ar gyfer canolfan drysfa laser, rwyf hefyd wedi gweithio yn yr America, Awstralia a Tsieina ar gyfer cwmnïau rhyngwladol, cleientiaid preifat, clybiau iechyd ac ysgolion. Mae nifer o'r murluniau'n fwy na 30m o led, felly mae hwn ychydig bach yn llai. Rwyf hefyd wedi peintio popeth o feiciau modur i awyrennau gyda chwistrell. 

"Hefyd, dw i'n dad, ac mae fy meibion wedi bod yn yr ysbyty am driniaeth, felly rwy'n deall bod angen i ward y plant fod yn llachar a chroesawus - rwyf wedi mwynhau creu hwn."

Rhannu |