Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Ebrill 2016

Mae'n rhaid i ni wynebu marwolaeth a galar - Archesgob Cymru

Ni ddylem ofni siarad am farwolaeth neu deimlo'n chwithig am alaru, meddai Archesgob Cymru heddiw (6 Ebrill).

Galwodd Dr Barry Morgan ar bobl i wynebu realaeth marwolaeth mewn anerchiad didwyll yn seiliedig ar ei brofiad ei hunan o brofedigaeth yn dilyn marwolaeth ei wraig, Hilary, o ganser ym mis Ionawr.

Yn ei anerchiad llywyddol i aelodau Corff Llywodraethu yr Eglwys yng Nghymru ar ddechrau ei gyfarfod deuddydd yn Llandudno, diolchodd yr Archesgob i bobl am y consyrn a ddangoswyd wrtho a dweud iddo dderbyn mwy na mil o lythyrau o gydymdeimlad.

Dywedodd nad yw pobl heddiw wedi arfer siarad am farwolaeth a marw.

Meddai: "Yr hyn sy'n rhyfeddol yw, hyd yn oed yn y trydydd mileniwm hwn, fod pobl yn dal i dawelu eu lleisiau wrth sôn am y gair canser, os o gwbl, neu ddim ond yn dweud 'c', ac maent yn dal i betruso am ddefnyddio'r geiriau 'marwolaeth' a marw'.

"Y geiriau a ddefnyddir fel arfer yw 'huno', 'mynd i gysgu', 'dechrau ar daith' a 'cholli', fel petai'r geiriau hyn ddim llawn mor derfynol neu greulon â'r gair 'marwolaeth'.

"Yn oes Victoria roedd pobl yn marw'n llawer iau ac fel arfer yn marw adref felly roeddent yn fwy cyfarwydd â siarad am farwolaeth a marw. Nid felly mae hi bellach.

"Y paradocs yw bod y teledu a radio yn aml yn cynnig rhaglenni difrifol am farwolaeth, marw a phrofedigaeth, felly ar y lefel gyhoeddus mae llawer iawn o drafodaeth ar y pwnc.

"Rydym hefyd yn byw mewn byd lle rydym yn wynebu adroddiadau ofnadwy bob dydd am drais a marwolaeth yn ein byd.

"Eto yn ein cymdeithas, mae mwy a mwy o bobl wedi tyfu lan heb fod wedi tystio marwolaeth naturiol perthynas.

"Mae llawer o bobl yn cyrraedd canol oed heb unrhyw brofiad uniongyrchol o brofedigaeth a bellach mae dros 70% o farwolaethau yn digwydd mewn ysbytai, cartrefi preswyl a hosbisau ac nid adref. Mae marwolaeth, pan fo'n digwydd, hefyd yn aml yn cael ei weld fel rhywbeth preifat …

"Ond os nad ydym ni, fel Cristnogion, yn fodlon wynebu realaeth a therfynoldeb marwolaeth mewn un ystyr, pwy wnaiff hynny?"

Talodd yr Archesgob deyrnged i ddewrder ei wraig wrth wynebu ei salwch, a'i phenderfyniad i fyw bywyd i'r eithaf. Siaradodd hefyd am sut y gwnaeth diagnosis o salwch terfynol ei helpu hi, fel gydag eraill, i ganolbwyntio ar ansawdd, yn hytrach na hyd, ei bywyd a hefyd roi cyfle iddi hi a'i theulu baratoi am farwolaeth.

Tanlinellodd yr Archesgob bwysigrwydd y gofal lliniarol a dderbyniodd Hilary i sicrhau bod ei marwolaeth mor ddi-boen ag oedd modd.

Dywedodd: "Pe na fyddwn wedi fy narbwyllo eisoes am y ddadl yn erbyn marw cynorthwyedig, byddai gweld gofal a thynerwch nyrsys yr hosbis a ddaeth i weini ychydig weithiau bob dydd, nad oedd dim yn ormod i drafferth ac nad oedd amser yn cyfrif iddynt hyd yn oed pan oeddent yn agosáu at ddiwedd eu shifft, wedi fy mherswadio."

Siaradodd Dr Morgan hefyd am yr angen i fynegi galar yn agored ac yn naturiol. Dywedodd nad yw pobl yn gwybod beth i'w ddweud neu sut i ddelio gyda rhai sydd mewn profedigaeth.

"Os ydym yn ymarferol yn gwadu marwolaeth yn gyhoeddus, yna rydym hefyd yn cyfyngu'r cwmpas ar gyfer mynegiant cyhoeddus profedigaeth," meddai. "Caiff wylo yn gyhoeddus yn aml ei ystyried fel rhywbeth na ddylid ei wneud ac eto gwyddom i Iesu wylo'n agored am ei gyfaill Lasarus.

"Mae proses galaru yn broses naturiol. Er y gallwn gredu nad marwolaeth yw'r diwedd, nid yw hynny'n atal torcalon colli ein hanwyliaid. Ni fyddwn yn eu gweld eto yn y bywyd hwn. Galar yw cost ymrwymiad, cost caru. Nid oes ffordd gywir neu anghywir i alaru - dim ond y galar ei hunan sydd yna - taith araf a graddol y rhai sydd mewn profedigaeth."

Dywedodd yr Archesgob nad yw marwolaeth yn ein gwahanu rhag cariad Duw.

"Credu yn Nuw Iesu yw credu mewn Duw trugaredd a gobaith ac felly mewn posibiliadau diddiwedd. Mae ffyddlondeb a chariad Duw felly'n parhau, oherwydd Ef yw'r Duw a all ac sy'n gwneud popeth newydd, oherwydd mai Ef yw'r Alpha a'r Omega."

Rhannu |