Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Ebrill 2016

Achubwyd y banciau, rhaid achub dur - Archesgob Cymru

Os oedd yn werth achub y diwydiant bancio, yna felly mae'n werth achub dur, meddai'r Archesgob Cymru heddiw (6 Ebrill).

Dywedodd Dr Barry Morgan fod goroesiad y diwydiant dur wedi effeithio ar filoedd o bobl, yn ogystal â chwmnïau ar draws y Deyrnas Gyfunol a rhybuddiodd y gallai eu bywydau a'u cymunedau gael eu difetha os oedd safleoedd yn cau.

Roedd yr Archesgob yn siarad ar ddechrau ei Anerchiad Llywyddol i Gorff Llywodraethu yr Eglwys yng Nghymru yn Llandudno (6-7 Ebrill). Mae ei sylwadau'n dilyn penderfyniad Tata Steel i ddod â'i weithgareddau yn y Deyrnas Gyfunol i ben, yn cynnwys ei safle ym Mhort Talbot.

Dywedodd Dr Morgan, sydd hefyd yn Esgob Esgobaeth Llandaf, sy'n cynnwys Port Talbot: “Nid argyfwng i Bort Talbot yn unig mo hwn, na hyd yn oed i Gymru’n unig. Mae’n argyfwng i Brydain gyfan. Mae’n codi’r cwestiwn o strategaeth ddiwydiannol i’r Deyrnas Gyfunol, gan mai dur yw sylfaen ei diwydiant cynhyrchu a’i fod felly’n effeithio ar lawer diwydiant arall.

“Beth ellir ei wneud? Nid wyf yn economegydd, ond mae’n ffaith bod trethi busnes yn y diwydiant dur yn y Deyrnas Gyfunol yn llawer uwch nag ydynt mewn rhannau eraill o’r Undeb Ewropeaidd, ac y mae costau ynni yn ôl tunnell o ddur a wneir yn y Deyrnas Gyfunol yn fwy na dwbl yr hyn ydynt yn yr Almaen.

"Mae gwledydd eraill wedi gosod trethi ar fewnforio a rhoi cymhorthdal helaeth i gynhyrchu dur. Os caeir pob gwaith dur, y perygl yw y bydd pris dur yn cynyddu, ac fe gaiff hynny effaith bellgyrhaeddol ar ein heconomi a’n diwydiant.

Fe fydd hi’n rhy hwyr erbyn hynny, a bydd bywydau pobl mewn lleoedd fel Port Talbot, y lluniodd y diwydiant dur eu cymunedau, yn deilchion. 

“Os oedd y diwydiant bancio – nad yw byth wedi llwyr sylweddoli maint ei achubiaeth, a barnu oddi wrth ymddygiad rhai o’i aelodau – yn werth ei achub, does bosib nad yw’n werth sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant dur yng Nghymru a’r Deyrnas Gyfunol.

"Mae 1,055 o gwmnïau yn y Deyrnas Gyfunol yn cynnwys gwneud neu gynhyrchu dur yn un o feysydd pwysicaf eu busnes. Mae a wnelo dyfodol y diwydiant â gobeithion gwaith miloedd lawer o bobl.  

Talodd Dr Morgan deyrnged i waith yr eglwysi ym Mhort Talbot am wneud popeth a allent i helpu'r gymuned.

Dywedodd, “Rai misoedd yn ôl, pan ddaeth y bygythiad o golli swyddi, ysbardunwyd yr eglwysi yn nhref Port Talbot i gefnogi’r gymuned wrth iddi wynebu’r argyfwng. Bellach mae’r sefyllfa’n llawer gwaeth, gyda bygythiad i gau pob gwaith dur yn y Deyrnas Gyfunol.

Ffurfiodd grŵp o un-ar-bymtheg o bobl o eglwysi a chapeli Port Talbot dîm o weinidogion i gynorthwyo caplan Tata i gefnogi pobl sy’n brwydro yn erbyn straen. Sefydlwyd canolfan gynghori ar ddyled yn un o’r eglwysi ac agorwyd mwy o fanciau bwyd yn wyneb y gofyn cynyddol a ddisgwylir.

Mae hyn oll i’w ganmol. Ein tuedd weithiau yw anghofio cymaint y mae Cristnogion yn ei wneud yn eu cymunedau. Serch hynny, mae’r dyfodol yn ymddangos yn llwm i dref Port Talbot, fel yr oedd yn y gorffennol i Lyn Ebwy a Llanwern.” 

Rhannu |