Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Ebrill 2016

Gŵyl gwrw i lansio Sesiwn Fawr

BYDD yr artistiaid a fydd yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau ym mis Gorffennaf yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yn Nhŷ Siamas, Dolgellau dydd Sadwrn yma, Ebrill 9.

Cynhelir y lansio fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Gwrw arbennig a gynhelir am yr ail flwyddyn eleni.

Bydd cyfle i sicrhau tocynnau ar gyfer penwythnos y Sesiwn Fawr ar Orffennaf 15-17 a hynny am brisiau gostyngol.

“Mae’r tocynnau eisoes ar werth ar ein gwefan www.sesiwnfawr.cymru a hynny am £30 yr un, ond bydd cyfle i unrhyw un sicrhau tocynnau am brisiau gostyngol yn ystod yr Ŵyl Gwrw sef £25 yn un neu fargen enfawr o £40 am ddwy,” meddai llefarydd ar ran y Sesiwn.

Profodd yr Ŵyl Gwrw yn boblogaidd iawn yn 2015 a’r gobaith yw y bydd yr un mor boblogaidd eto eleni.

“Mae gennym restr hir o wahanol gwrw a seidr a fydd ar gael ar y diwrnod, rhywbeth at flas pawb dwi’n siŵr gan gynnwys cwrw gan Fragdy’r Gogarth, Cwrw Conwy, Cwrw Llŷn, Celt, Cwrw Monty’s a Woods.

“Bydd seidr ar gael gan Wynt y Ddraig, Two Trees a Farmhouse Pryder.

“Rydyn hefyd wedi cynhyrchu gwydrau arbennig ar gyfer y digwyddiad”

Yn ogystal â hyn bydd adloniant yn cael ei gynnal trwy’r dydd.

Bydd sesiwn feic agored yn ystod y prynhawn. Cyfle euraidd i unrhyw un sydd am wneud argraff ar drefnwyr un o brif wyliau Cymru. 

Gyda’r nos wedyn ceir adloniant gan Candelas, Jambyls a Gwilym Bowen Rhys.

Llun: Gwilym Bowen Rhys

Rhannu |