Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Ebrill 2016

Bryn Seiont Newydd yn cipio coron cartref gofal newydd gorau y DU

Mae canolfan ragoriaeth £7 miliwn ar gyfer gofal dementia yng Ngwynedd wedi cael ei choroni fel cartref gofal newydd gorau y DU.

Cipiodd Bryn Seiont Newydd, yng Nghaernarfon, y brif wobr yn y prif gategori yng Ngwobrau Dylunio Gofal Iechyd Pinders 2016.

Mynychwyd y seremoni wobrwyo ddisglair gan 2,000 o bobl ac fe’i cynhaliwyd yng ngwesty pedair seren y Lancaster Hotel yn Llundain.

Agorwyd Bryn Seiont Newydd gan sefydliad gofal Parc Pendine fis Tachwedd diwethaf ar y safle pum erw hen ysbyty cymunedol Ysbyty Bryn Seiont ar gyrion Caernarfon.

Mae’r cyfleuster dwyieithog, 71 gwely eisoes yn llawn ac mae wedi creu dros 100 o swyddi yn yr ardal, swyddi sydd mawr eu hangen.

Mae’r ganolfan, a gynlluniwyd gan y syrfewyr adeiladu siartredig Wynn Rogers o Ddinbych ac a adeiladwyd gan gwmni Carroll’s Rhuthun, wedi ei rhannu yn wyth o unedau bychain teuluol, fel bod y preswylwyr yn cael gofal a sylw unigol ac ar yr un pryd yn elwa o’r gefnogaeth sefydliad mwy.

Mae gwaith yn mynd rhagddo bellach i adeiladu 16 o fflatiau byw cydymaith er mwyn helpu cyplau i aros yn annibynnol yn hirach.

Syniad Mario Kreft MBE a’i wraig, Gill yw’r datblygiad, a’r ddau hefyd a sefydlodd y cwmni ychydig dros 30 mlynedd yn ôl pan nad oeddent yn gallu dod o hyd i ofal cymdeithasol addas ar gyfer aelodau hŷn eu teulu eu hunain.

Erbyn hyn maent yn rhedeg saith cartref gofal arall yn Wrecsam, cwmni gofal cartref a’u sefydliad hyfforddi mewnol ei hunain, gan gyflogi cyfanswm o tua 800 o bobl.

Dywedodd Mr Kreft, sydd hefyd yn gadeirydd Fforwm Gofal Cymru ac a dderbyniodd ei MBE am wasanaethau i ofal cymdeithasol: “Rydym wrth ein boddau bod Bryn Seiont Newydd wedi cael ei gydnabod fel y cartref gofal newydd gorau yn y DU.

“Rydym yn arbennig o falch ein bod wedi gallu buddsoddi yng Ngogledd Orllewin Cymru ac adeiladu Bryn Seiont Newydd heb unrhyw arian cyhoeddus

“Mae’r ffaith bod cymaint o ddiddordeb wedi cale ei ddangos mor fuan yn arwydd clir o’r angen am y gwasanaethau rydym yn eu darparu yma ar gyfer y gymuned.

“Rydym wedi cael ein cyffwrdd gan gynhesrwydd y croeso rydym wedi ei gael gan y gymuned leol a’r brwdfrydedd gwirioneddol sydd yma dros yr hyn rydym yn ceisio’i gyflawni.

“Er bod cael adeiledd yr adeilad yn iawn yn hynod o bwysig, yr hyn sy’n gwneud Bryn Seiont hyd yn oed yn fwy arbennig yw’r tîm ymroddedig gwych sydd gennym yn gweithio yma.

“Y llinyn arian sy’n rhedeg drwy bopeth a wnawn yw ein rhaglen gyfoethogi arobryn sy’n sicrhau bod y celfyddydau wrth galon sut rydym yn gwella ansawdd bywyd ein preswylwyr ac hefyd y staff sy’n gofalu amdanynt

“Rydym wedi penodi cerddor ac artist preswyl am ein bod am i’n preswylwyr gael cyfleoedd i gymryd rhan yn y celfyddydau a cherddoriaeth oherwydd rydym yn gwybod o brofiad bod hynny’n gallu dod â manteision enfawr i’w bywydau.”

Un o'r rhai oedd yn cynrychioli Parc Pendine yn y seremoni wobrwyo oedd Sarah Edwards, sy’n gweithio ar sail ymgynghorol ar y safle fel artist preswyl.

Dywedodd Ms Edwards, a oedd yn gyfrifol am ddyluniad mewnol Bryn Seiont: “Mae hyn yn anrhydedd gwirioneddol wych i Bryn Seiont Newydd ac roedd yn fraint aruthrol i mi gael bod yn rhan o’r tîm a wnaeth ddod â’r cyfan ynghyd.”

Roedd Sandra Evans, rheolwr Bryn Seiont Newydd, yr un mor falch.

Dywedodd: “Mae gennym eisoes wobr aur Buddsoddwyr mewn Pobl yn Wrecsam ac mae hyn yn rhywbeth yr hoffem ei ymestyn i Gaernarfon, gan ddefnyddio ein cwmni hyfforddi ein hunain, Academi Gofal Cymdeithasol Pendine.

“Mae gwerth hyfforddiant perthnasol o ansawdd uchel yn greiddiol i’n hathroniaeth a dyna pam rydym wedi datblygu ein rhaglen hyfforddi pwrpasol ein hunain lle mae’r celfyddydau yn rhan annatod ohoni ar gyfer ein holl aelodau staff, gan gynnwys y timau gweinyddol, cynnal a chadw a glanhau.

“Rydym yn benderfynol o greu rhywbeth arbennig iawn yma ym Mryn Seiont Newydd ac mae’r safle ei hun, sydd wedi ei ffinio â choed aeddfed, yn lleoliad perffaith.”

Llun: Mario Kreft MBE a'i gynorthwyydd personol Sue Thomas yn dathlu gyda rhai o staff Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon

Rhannu |