Mwy o Newyddion
Cynhadledd Treftadaeth y Byd y Deyrnas Unedig yn dod i Gaernarfon
Yr hydref hwn, bydd Cymru yn rhoi croeso i gynhadledd Treftadaeth y Byd y Deyrnas Unedig. Bydd y gynhadledd yn gyfle gwych i hybu diwylliant rhagorol Cymru.
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon sy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi y Brenin Edward yng Ngwynedd.
Bydd yn rhan fawr o’r dathliadau i nodi 30 mlynedd ers iddo gael statws Treftadaeth y Byd.
Cynhelir y digwyddiad pwysig hwn ym mis Hydref – yr un pryd ac y bydd Castell Caernarfon yn croesawu arddangosfa pabis eiconig y Weeping Window.
Roedd yr arddangosfa hon yn rhan o’r arddangosfa babis wreiddiol yn Nhŵr Llundain i ddathlu canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf.
Bydd y gynhadledd hon yn gyfle i dynnu sylw at ba mor hawdd yw hi i gymunedau lleol gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau yn yr henebion pwysig hyn.
Yn ogystal, cyfle i roi sylw i safleoedd treftadaeth pwysig eraill ledled Cymru hefyd.
Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rwy’n falch iawn bod cynhadledd Treftadaeth y Byd y Deyrnas Unedig yn dod i Ogledd Cymru yr hydref hwn.
"Mae ein treftadaeth yma yng Nghymru yn gyfoethog ac yn amrywiol iawn; mae hwn yn gyfle heb ei ail i ddathlu ac arddangos ein hasedau diwylliannol ar lwyfan rhyngwladol.
“Rydym yn disgwyl hyd at 100 o gyfranogwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i ddod i’r gynhadledd.
"Bydd y digwyddiad hwn yn helpu i godi proffil y rhanbarth a Chymru a bydd yn rhoi hwb i’r economi leol hefyd.
"Byddwn hefyd yn cynnwys rhagor o’n safleoedd pwysig yn y digwyddiad, yn eu plith ein cestyll ac atyniadau lleol eraill; rydym am roi cymaint o sylw â phosibl i dwristiaeth rhagorol Cymru.”
Ychwanegodd Sam Rose, Cadeirydd Treftadaeth y Byd y Deyrnas Unedig: “Bydd y gynhadledd hon yn helpu Treftadaeth y Byd y DU i gyflawni ei nod o hybu a chodi ymwybyddiaeth ym Mhrydain a thramor o’r 29 safle treftadaeth y byd.
"Yng Nghaernarfon, byddwn yn dod ag asiantaethau treftadaeth a busnesau sy’n ymddiddori mewn treftadaeth ynghyd i drafod ffyrdd gwell o ofalu am y safleoedd pwysig hyn am genedlaethau i ddod.
"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynnal y gynhadledd yng Nghymru.”