Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Ebrill 2016

Y Genedl yn cael medalau sy’n gysylltiedig â Brwydr Waterloo

Heddiw, mae Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi y bydd y genedl yn cael dros saithdeg o arteffactau gwerthfawr, gan gynnwys medalau ac arwyddnodau prin sy’n gysylltiedig â Brwydr Waterloo yn lle treth etifeddiaeth.

Mae’r casgliad o 72 eitem, oedd yn arfer cael eu galw’n ‘declynnau’ neu ‘chattels’, yn cynnwys 35 paentiad, 13 darn neu setiau o ddodrefn, dau gloc, dau benddelw, tri darn neu bar o grochenwaith a dau gasgliad o fedalau.

Maen nhw wedi cael eu derbyn gan Weinidogion Cymru gan ystâd 7fed Ardalydd Môn trwy’r cynllun Derbyn yn Lle Treth.

O dderbyn yr arteffactau, bydd modd sicrhau bod y cyhoedd yn cael parhau i fwynhau’r casgliad rhagorol hwn sydd i’w weld ar safle Plas Newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd y Dirprwy Weinidog:  “Mae hwn yn gasgliad o arteffactau hynod ddiddorol ac mae’n bleser o’r mwyaf gallu ei dderbyn ar ran y genedl. 

"Drwy dderbyn y casgliad hwn, rydym yn gallu sicrhau y bydd y pawb yn gallu parhau i fwynhau’r arteffactau hyn ym Mhlas Newydd.”

Cyflwynwyd Plas Newydd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol nôl ym 1976.  Mae gan y saith deg dau teclyn a’r medalau gysylltiad hanesyddol pwysig â’r tŷ a thrwy dderbyn yr eitemau hyn, bydd modd eu harddangos yn barhaol yn Nhŷ Newydd.

Dywedodd Justin Albert, Cyfarwyddwr Cymru’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol:  “Mae’r Ymddiriedolaeth yn hynod o ddiolchgar i deulu Ardalydd Môn ac i Lywodraeth Cymru am ddiogelu dyfodol casgliad Plas Newydd ac am ystyried y fantais a gaiff y genedl o wneud hynny. 

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau â’r cysylltiad hirsefydlog a chynnes sydd gennym gydag Ardalydd Môn.

“Heb amheuaeth, mae pobl sy’n ymweld ag eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn mwynhau gweld y gwrthrychau hyn yn eu cyd-destun yn fawr iawn ac yn gwerthfaworgi’r cysylltiad sydd ganddyn nhw ag aelodau’r teulu.

"Nawr, bydd modd i bobl barhau i fwynhau’r darnau hyn a byddan nhw’n galluogi ymwelwyr i ddod i gysylltiad â theulu hen a newydd Ardalydd Môn.

“Mae trosglwyddo’r casgliad hwn yn hynod o bwysig i Blas Newydd, nid yn unig o ran sicrhau ei fod yn parhau i gael ei arddangos yng nghartref gwreiddiol y teulu ond mae’n helpu i ddweud hanes y tŷ hefyd.

"Datblygodd Plas Newydd o fod yn gartref haf i fod yn leoliad pwysig yn yr ardal ac fe gafodd lawer o enwogion o’r gorffennol ddylanwad ar yr eiddo hefyd.”

Mae’r cynllun Derbyn yn Lle Treth (AIL) yn galluogi trethdalwyr i drosglwyddo gweithiau celf a darnau o dreftadaeth bwysig, fel arteffactau Plas Newydd, i berchenogaeth y cyhoedd, un ai yn llawn neu’n rhannol, fel rhan o dreth etifeddiaeth.

Yng Nghymru, mae’n rhaid i’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth gymeradwyo’r eitemau gyda chymorth Panel Derbyn yn Lle Treth y Deyrnas Unedig.

Mae’r panel yn cynnwys arbenigwyr annibynnol sy’n gofyn am gyngor arbenigol ar yr eitemau a gyflwynir.  Mae’r panel yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn rhai achosion, maen nhw’n cydweithio ag Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Edward Harley, Cadeirydd y Panel AIL:  “Mae’r Panel AIL yn falch iawn bod y casgliad mawr hwn o 70 eitem a mwy wedi cael ei ddiogelu ar gyfer y genedl.

"Mae’n cynnwys casgliad o fedalau ac arwyddnodau prin iawn sy’n gysylltiedig a Chadlywydd Henry William Paget, Ardalydd 1af Môn a dirprwy Wellington ym mrwydr Waterloo.

"Bydd y casgliad yn parhau i gael ei arddangos ym Mhlas Newydd ar Ynys Môn a roddwyd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan 7fed Ardalydd Môn nôl ym 1976.

"Mae’r paentiadau a’r  dodrefn sy’n rhan o’r casgliad yn rhan bwysig o addurniad y tŷ ac mae’r Plas mewn lleoliad godidog ar lan yr Afon Fenai.”

Rhannu |