Mwy o Newyddion
Cyffur canser yr iau, Sorafenib, i fod ar gael yng Nghymru
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, wedi cadarnhau heddiw y bydd yr unig feddyginiaeth drwyddedig i drin y math mwyaf cyffredin o ganser yr iau ar gael drwy Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.
Mae'r Gweinidog wedi cadarnhau y bydd argymhelliad Grŵp Strategaeth Feddyginiaeth Cymru y dylai Sorafenib fod ar gael fel mater o drefn i drin pobl sydd â charsinoma hepatogellol datblygiedig (HCC) yn cael ei gymeradwyo. Nid oes opsiynau eraill o ran triniaeth ar gael i'r bobl hyn.
Mae gwneuthurwr sorafenib wedi cytuno i Gynllun Mynediad Cleifion yng Nghymru. Bydd y cynllun yn lleihau cost triniaeth. Mae hyn yn golygu y bydd yn bosibl i sorafenib fod ar gael er gwaethaf penderfyniad blaenorol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) i beidio ag argymell ei ddefnyddio yn y GIG yng Nghymru a Lloegr.
HCC yw'r math mwyaf cyffredin o ganser sylfaenol yr iau, a phobl sydd â chlefyd cronig yr iau a sirosis fydd yn ei gael gan amlaf. Dyma’r trydydd math mwyaf cyffredin o ganser sy'n lladd ledled y byd.
Mae’n bosibl trin y clefyd yn ei gyfnod cynnar, drwy lawdriniaeth neu abladiad. Fodd bynnag, dim ond nifer cyfyngedig o opsiynau sydd ar gael i bobl nad yw llawdriniaeth neu abladiad yn addas iddynt.
Yn dilyn diagnosis o HCC, bydd pobl yn goroesi am lai na 12 mis ar gyfartaledd. Ond mae profion clinigol wedi dangos bod sorafenib yn gallu ymestyn y cyfnod goroesi a gwella ansawdd bywyd.
Bob blwyddyn, mae oddeutu 250 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o HCC.
Disgwylir y bydd mwy na 100 o'r bobl hyn yn cael budd oherwydd bod sorafenib ar gael.
Dywedodd yr Athro Drakeford: "Rwy'n falch y bydd sorafenib - yr unig feddyginiaeth drwyddedig i drin carsinoma hepatogellol datblygiedig, sef y math mwyaf cyffredin o ganser yr iau - ar gael fel mater o drefn drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
"Bydd y cyffur ar gael oherwydd yr angen clinigol amlwg ac oherwydd bod potensial i'r cyffur gael effaith gadarnhaol ar bobl sydd â'r math hwn o ganser yr iau yng Nghymru."
Nid yw sorfenib ar gael fel mater o drefn yn Lloegr.