Mwy o Newyddion
Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2016
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og 2016. Eleni, mae’r gwobrau yn dathlu pen-blwydd arbennig iawn yn ddeugain mlwydd oed ac mae cyffro mawr i weld pwy fydd yn fuddugol.
Dyma’r teitlau a ddewiswyd gan y panel:
Categori Cynradd Cymraeg
- Santa Corn – Ceri Wyn Jones (Gomer)
- Coeden Cadi – Bethan Gwanas (Y Lolfa)
- Pedair Cainc y Mabinogi – Siân Lewis (awdures) a Valériane Leblond (dylunydd) (Rily)
Categori Uwchradd Cymraeg
- Stori Cymru – Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch)
- Paent! – Angharad Tomos (Carreg Gwalch)
- Gwalia – Llŷr Titus (Gomer)
Dywedodd Eirian James, Cadeirydd Panel Dewis y Gwobrau Cymraeg: “Eleni, derbyniwyd 33 o gyfrolau i’w darllen a’u cloriannu.
"Ymysg y llyfrau roedd nifer fawr o storïau gair-a-llun i’r plant lleiaf, dewis da o lyfrau i blant sy’n cychwyn darllen ar eu pennau eu hunain, nofelau antur, storïau hanesyddol, llyfrau anrheg, cerddi, a llyfrau ffeithiol i blant hŷn, ynghyd â nifer fechan iawn o lyfrau i’r arddegau.
"Er ein bod yn hapus gyda’r nifer a’r amrywiaeth o gyfrolau yn gyffredinol, byddem wedi hoffi gweld mwy o gyfrolau ar gyfer yr arddegau.”
Yn ôl Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Mae’n bwysicach nag erioed fod y cyhoeddiadau ar gyfer plant a phobl ifanc yn gyffrous, yn ddeniadol ac o’r safon uchaf.
"Dyma’r modd i ddenu plant i ddarllen a sicrhau eu bod yn dod yn ddarllenwyr am oes.
"Mae gan Wobrau Tir na n-Og, ar gyfer llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o Gymru, le amlwg i arddangos a hyrwyddo’r goreuon yn y maes ac rydym yn llongyfarch yr awduron, y darlunwyr a’r cyhoeddwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni.”
Sefydlwyd Gwobrau Tir na n-Og yn 1976 gyda’r bwriad o godi safon llyfrau i blant a phobl ifanc yng Nghymru ac i annog pobl i brynu a darllen llyfrau da.
Cyflwynir tair gwobr yn flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu gwaith awduron a darlunwyr llyfrau plant, a hynny mewn tri chategori, sef categori cynradd Cymraeg, categori uwchradd Cymraeg a llyfr Saesneg gorau’r flwyddyn.
Noddir y gwobrau gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru) a Chymdeithas Lyfrau Ceredigion.
Cyhoeddwyd y rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfr Saesneg Gorau’r Flwyddyn yn ogystal neithiwr:
Llyfr Saesneg Gorau’r Flwyddyn
- The Search for Mister Lloyd – Griff Rowland (Candy Jar Books)
- Longbow Girl – Linda Davies (Chicken House)
- The Four Branches of the Mabinogi – Siân Lewis a Valériane Leblond (dylunydd) (Rily)
- Ruck in the Muck – Ceri Wyn Jones (Gomer)
Mae manylion y llyfrau ac adolygiadau ohonynt i’w gweld ar www.gwales.com
Bydd enwau enillwyr y gwobrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir y Fflint, ddydd Iau, 2 Mehefin 2016.
Caiff enw enillydd y wobr Saesneg ei gyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yn Llyfrgell Abertawe yn ystod cynhadledd CILIP Cymru, ddydd Iau, 26 Mai 2016.