Mwy o Newyddion
Cynllun yn taro wal frics - gwrthod cannoedd o dai newydd i Fangor
Mae cais cynllunio i godi 366 o dai newydd ym Mangor, wedi'i wrthod gan aelodau Pwyllgor Cynllunio, Cyngor Gwynedd, yr wythnos hon.
O fwyafrif sylweddol o ddeg pleidlais i dair brynhawn Llun (Ebrill 4) fe gafodd y cais gan gwmni Morbaine Ltd., Widnes, am ganiatâd cynllunio ar gyfer y tai ym Mhen-y-ffridd ei wrthod.
Pe byddai wedi'i ganiatau, dyma fyddai’r datblygiad mwyaf o’i fath yng Ngwynedd erioed.
Cafwyd cynnig dechreuol y dylid caniatáu’r cais, ond gan ymateb, dadleuodd y Cynghorydd Seimon Glyn y byddai’n ddoeth cael moratoriwm ar y cais, er mwyn cael cyfle i gloriannu’r gwahanol fethodolegau a ddefnyddiwyd wrth ystyried a fyddai’r datblygiad yn niweidiol i’r Gymraeg yn lleol ai peidio.
Gwrthodwyd hynny gan swyddogion y Cyngor, felly ar gynnig y Cynghorydd John Wyn Williams, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Seimon Glyn, pleidleisiwyd o blaid gwrthod y cais. Hynny’n groes i argymhelliad Gwasanaeth Cynllunio’r Cyngor.
Gwrthodwyd y cais ar y sail y byddai’r datblygiad yn debyg o arwain at niweidio sefyllfa’r Gymraeg yn yr ardal.
“Mae hwn yn benderfyniad hanesyddol," meddai Howard Huws, a fu'n ymgyrchu yn erbyn y datblygiad.
"Mae aelodau Pwyllgor Cynllunio Gwynedd wedi gwrthsefyll pwysau mawr o du’r darpar-ddatblygwyr a swyddogion Cyngor Gwynedd i ganiatáu’r datblygiad, ac wedi dewis rhoi dyfodol y Gymraeg yng Ngwynedd yn gyntaf.
"Hyd yn hyn, mae swyddogion y Cyngor wedi derbyn pob asesiad effaith ieithyddol gan ddatblygwyr yn gwbl ddihalen.
"Mae aelodau’r Pwyllgor Cynllunio heddiw wedi gwrthryfela, gan dderbyn a chredu tystiolaeth sy’n dangos y byddai 366 o dai ychwanegol yn debygol o beri difrod diwylliannol ym Mangor a thu hwnt
" Mae aelodau’r Pwyllgor Cynllunio i’w llongyfarch am eu gwroldeb a’u doethineb.
“Mae’n bosibl y bydd Morbaine yn awr yn apelio yn erbyn y penderfyniad," meddai Howard Huws wedyn.
"Os digwydd hynny, yna rhaid i bob un ohonom sy’n caru’r Gymraeg, pawb sydd o blaid parhad y genedl Gymraeg, sefyll ysgwydd yn ysgwydd ag aelodau Cyngor Gwynedd wrth iddyn nhw ddadlau ein hachos.
"Mae’r frwydr gynllunio yn frwydr sy’n effeithio ar ein holl gymunedau Cymraeg, ac ar bawb sydd am weld parhad y Gymraeg fel iaith fyw.
"Rhaid wrth drefn gynllunio sy’n ategu sefyllfa’r Gymraeg, nid yn ei difetha: mae penderfyniad Pwyllgor Cynllunio Gwynedd yn gam i’r cyfeiriad hwnnw.”