Mwy o Newyddion
Materion diogelwch yn Ffrainc yn effeithio ar siwrne Abertawe i Mametz – taith Hen Geir i goffáu y rhai a fu farw ym Mrwydr Coedig Mametz
Mae trefnydd taith hen geir Abertawe i Mametz (Ffrainc) wedi gorfod symud dyddiad cau cofrestru ar y daith, ynghynt.
Bellach, bydd yn rhaid i’r sawl sydd â diddordeb mewn mynd ar y daith i gofrestru cyn 5ed Mai 2016.
Mae bron i 20 car wedi cofrestru ar y daith yn barod ond mae dal ychydig o lefydd ar ôl ac mae’r trefnydd Huw Morris yn annog unrhyw un sydd am wybod mwy am y daith i gysylltu ag e cyn gynted ag y bo modd neu i gofrestru drwy’r wefan www.mametzrun.co.uk
Mae awdurdodau diogelwch Ffrainc wedi datgan y bydd yn rhaid i bawb sydd am fynychu digwyddiadau i goffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, i gofrestru eu diddordeb erbyn canol mis Mai.
Trefnwyd y daith i goffau Brwydr Coedwig Mametz a ddigwyddodd rhwng 7fed i’r 12fed Orffennaf 1916. Bydd y ceir yn cyrraedd Mametz ar y 6ed o Orffennaf, i fynychu'r digwyddiadau canmlwyddiant y frwydr ar y 7fed.
Brwydr Coedwig Mametz
Ym mis Gorffennaf 1916, anafwyd a lladdwyd miloedd o filwyr ifanc o Gymru dros gyfnod o wythnos ym Mrwydr Coedig Mametz, y rhan helaeth o Abertawe neu’r Rhondda – brwyd o fewn Brwydr y Somme.
Ar ddiwedd y frwydr gwaedlyd, llwyddodd Catrawd Abertawe a Chatrawd y Rhondda i orfodi’r Almaenwyr i encilo o’r goedwig.
Manylion y Daith
Bydd y daith yn digwydd rhwng y 5ed i’r 8fed o Orffennaf, gan adael o flaen y ”George”, y Mwmbwls am 10 o’r gloch y bore. Amcangyfrifir y bydd tua 20 o geir yn cymryd rhan.
Yn ystod y penwythnos cyn y daith trefnir arddangosfa am y Frwydr yn y “George” a bydd croeso i’r cyhoedd fynychu noson arbennig yn y George ar y nos Lun – Bydd y Dr Gethin Mamtthews yn rhoi anerchaid am Frwydr Coedwig Mametz.
Bydd cyfle i’r cyhoedd edmygu’r hen geir yn y Mwmbwls cyn iddynti adael ar y 5ed, rhwng 9 – 10 o’r gloch.
I sicrhau eich lle ar y daith, cysyllter â’r trefnydd, Huw Landeg Morris drwy ddanfon e-bost yn datgan eich diddordeb at landeg@ntlworld.com
Pam gadael o’r “George”?
Trefnir y daith gan Huw Landeg Morris, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe. Esboniodd pam bod y daith yn gadael o flaen “Y George”:" Wedi imi weld llun o’r milwyr yn sefyll mewn rhesi perffaith o flean Gwesty’r George, cyn iddynt adael i ymladd yn Ffrainc, teimlais ei fod yn addas gadael o’r un man.
"Doedd dim dewis arall. Mae’n drist nodi bod 63 o’r milwyr yn y llun wedi’u lladd ym Mrwydr Coedwig Mametz."
Cofnodi eich Diddordeb
Mae’r trenwyr yn annog y rhai sydd â diddordeb yn y daith i gysylltu â’r trefnwyr cyn gynted ag y bo modd.
Bydd y pris tua £450 am ddau berson a fydd yn teithio gyda’i gilydd.