Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Ebrill 2016

Caerdydd yn cynnal cynhadledd flogio teithiau bwysig

Rhwng 8 a 10 Ebrill, bydd Caerdydd yn croesawu tua 300 o flogwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i Gynhadledd ‘Traverse Blogging’ 2016 sef cynhadledd blogio teithiau sy’n cael ei chynnal yn y ddinas dros y penwythnos.

Yn ystod y gynhadledd, bydd  y blogwyr yn cael gwrando ar siaradwyr pwysig -  yn eu plith, Abigail King, awdures (sydd wedi ennill llu o wobrau), blogiwr a ffotograffydd a roddodd y gorau i’w gyrfa fel meddyg i deithio’r byd;  Rich McCor (aka @Paperboyo) sy’n ychwanegu llun wedi’i dorri o bapur i leoliadau enwog ac sy’n eithriadol o boblogaidd ar instragram a Monica Stott, y blogiwr teithio a sefydlwr The Travel Hack.

Bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithdai i ymarfer eu sgiliau digidol ac i rannu eu harferion da.

Ddydd Sul, bydd y blogwyr yn cael cyfle i gael blas ar Gaerdydd.  Mae pob math o weithgareddau wedi’u trefnu ar eu cyfer - taith i’r castell, cinio dydd Sul yn y Chapter, taith o amgylch yr Amgueddfa Genedlaethol a thrip i Ganolfan Ddŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd. Mae’r  tripiau sydd wedi’u trefnu i Bwll Mawr Blaenafon ac i’r Gŵyr eisoes yn llawn.  Gall y rheini sy’n dod i’r gynhadledd ymweld ag atyniadau fel Stadiwm y Principality neu’r Dr Who Experience hefyd neu, gallan nhw fynd i’r Celtic Manor i chwarae gêm o golff ar gwrs 2010 Cwpan Ryder.

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:  “Fe hoffwn groesawu pawb sy’n dod i gynhadledd Traverse i Gymru.  Rwy’n siŵr y caiff bawb amser bendigedig yma dros y penwythnos – rydym wedi trefnu amserlen sy’n dangos yr amrywiaeth anhygoel o atyniadau a phrofiadau sydd ar gael yng Nghymru.

“Rwy’n gobeithio y bydd eu trip i Gymru yn rhoi rhywbeth iddyn nhw gnoi cil drosto ac y byddan nhw’n gallu rhannu eu profiadau gyda’u dilynwyr.  2016 yw ein Blwyddyn Antur ac rydym yn gwahodd pobl i Gymru gan obeithio y byddan nhw’n dod o hyd i’r hyn sy’n mynd â’u bryd.

"Dros y penwythnos, byddwn yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo Caerdydd a Chymru; rydym yn gobeithio y bydd y blogwyr yn cael modd i fyw yn ystod eu hymweliad â Chymru.”

Dywedodd Michael Ball, Cyfarwyddwr Traverse:  “Rydym yn eithriadol o falch ein bod yn cynnal Traverse 2016 yng Nghaerydd.  Nôl ym mis Awst, fe wnaethon ni ymweld â’r ddinas gan ein bod yn ei hystyried fel lleoliad posibl.  Bryd hynny, cawsom ein gwefreiddio gan harddwch cefn gwlad Cymru, mor hawdd yw hi i gyrraedd y brifddinas ond yn fwy na dim, cawsom ein swyno gan gyfeillgarwch pobl Cymru.

“Ers mis Awst, rydym wedi bod yn gweithio â Chaerdydd a Chymru ac wedi cael profiadau gwerth chweil; rydym yn gwbl hyderus y bydd cynhadledd Traverse 2016 yn fwy poblogaidd nag erioed.  Bydd y gynhadledd yn dechrau ar y nos Wener yn The Depot – un o leoliadau rhagorol Caerdydd.  Bydd y gynhadledd ei hun yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd a thros y Sul, byddwn yn cynnal 20 o weithgareddau rhagorol fydd yn dangos Caerdydd a’r ardal gyfagos ar eu gorau i bawb fydd yn cymryd rhan.”

 
Gallwch ddarllen rhagor am y gynhadledd drwy glicio ar y ddolen hon: www.traverse-events.com
 

Rhannu |